Beirniadu pa mor ddibynadwy ydy trenau Network Rail

  • Cyhoeddwyd
tren yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n rhaid i Network Rail baratoi cynllun i wella dibynadwyedd trenau yng Nghymru, yn ôl adroddiad beirniadol gan y corff sy'n rheoleiddio'r rheilffyrdd.

Yn ôl y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) mae 'na ddirywiad sylweddol wedi bod ym mherfformiad gwasanaethau trenau i deithwyr yn rhanbarth Cymru a'r Gorllewin Network Rail.

Dywedodd yr ORR fod nifer y trenau gafodd eu canslo yn llwyr wedi bron dyblu rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ychwanegodd yr ORR fod perfformiad rhanbarth Cymru a'r Gorllewin wedi gwaethygu'n gyflymach nag unrhyw ranbarth arall ym Mhrydain, gyda pherfformiad arbennig o wael yng Nghymru.

Dim ond 69.6% o drenau wnaeth gyrraedd ar amser, o'i gymharu â 80.2% yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Network Rail eu bod yn cydnabod fod lle i wella perfformiad gwasanaethau trên, a'u bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar wneud hynny.

Beio stormydd a'r pandemig

Diffyg staff o ganlyniad i'r pandemig, a difrod a achoswyd i'r rhwydwaith gan stormydd Arwen, Barra, Dudley, Eunice a Franklin sy'n rhannol gyfrifol am yr oedi.

Roedd yna oedi hefyd oherwydd diffygion ar y brif linell reilffordd yn ne Cymru.

Ond dywed yr ORR fod Network Rail Cymru a'r Gorllewin wedi cyrraedd targed effeithlonrwydd o £121m.

"Fe wnaeth Network Rail Cymru a'r Gorllewin yn dda yn erbyn ei darged effeithlonrwydd," meddai Patrick Crowley, uwch reolwr rheoleiddio'r ORR ar gyfer rhanbarth Cymru a'r Gorllewin.

"Fodd bynnag, mae'n rhaid i berfformiad gwasanaethau trenau a rheoli asedau wella.

"Yn benodol, rydym yn pwyso am i Network Rail wella perfformiad trenau ar gyfer cwsmeriaid yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Network Rail eu bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ar wella perfformiad gwasanaethau

Dywedodd yr ORR bod yn rhaid i Network Rail lunio cynllun gwella i fynd i'r afael ag ôl-groniad o archwiliadau seilwaith ac i gyflwyno gwelliannau ar y rhwydwaith.

Rhybuddiodd y rheoleiddiwr y byddai'n gweithredu os na fydd "cynnydd digonol".

Dywedodd cyfarwyddwr llwybrau Network Rail ar gyfer Cymru a'r Gororau, Nick Millington: "Ry'n ni'n cydnabod nad ydy perfformiad gwasanaethau trên wedi cyrraedd disgwyliadau teithwyr ac mae gennym gynllun ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ardaloedd allweddol sydd angen perfformio'n well."

Ychwanegodd fod tywydd garw'r flwyddyn ddiwethaf yn "dangos maint yr her ry'n ni'n wynebu wrth geisio gwella gwytnwch ein rheilffyrdd yng Nghymru".

Pynciau cysylltiedig