Streiciau rheilffordd: Ffrae dros honiad bod staff wedi symud i Loegr

  • Cyhoeddwyd
Bangor stationFfynhonnell y llun, BBC

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Network Rail wedi symud staff o Gymru i helpu gwasanaethau yn Lloegr.

Gwadodd y cwmni nos Fawrth eu bod wedi adleoli staff yn y fath fodd.

Cyhuddodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, Mr Drakeford o gael ei ffeithiau'n anghywir.

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod Network Rail wedi rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio rhai "signalwyr wrth gefn" i gadw llinellau i redeg dros y ffin.

'Dim anghydfod yng Nghymru'

Mewn sesiwn danllyd o Gwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth a oedd yn canolbwyntio ar y streic rheilffordd, dywedodd Mr Drakeford: "Mae Network Rail wedi symud rhai o'r staff, a allai fod wedi bod ar gael i redeg trenau yng Nghymru, er mwyn cadw trenau i redeg yn Lloegr."

Gofynnodd a oedd Andrew RT Davies yn "cefnogi'r mesur hwnnw, a oedd yn benderfyniad gan ei lywodraeth, i wrthod y cyfle i bobl yng Nghymru deithio - lle nad oes anghydfod - trwy symud y gweithwyr hynny i ofalu am yr hyn sy'n amlwg yn flaenoriaeth uwch iddyn nhw nag y bydd dinasyddion Cymru byth".

Er nad oedd gan Trafnidiaeth Cymru ei hun anghydfod ag undeb yr RMT, oherwydd bod gweithwyr o gwmnïau trenau a Network Rail wedi mynd ar streic nid oedd y rhan fwyaf o wasanaethau trên Cymru yn gallu gweithredu.

Mae disgwyl y streic nesaf ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod Network Rail wedi rhoi blaenoriaeth i deithwyr yn Lloegr

Yn dilyn y sylwadau dywedodd llefarydd ar ran Network Rail Cymru a'r Gororau: "Nid oes unrhyw staff Network Rail wedi cael eu hadleoli o Gymru i Loegr yn ystod y gweithredu diwydiannol hwn.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn Trafnidiaeth Cymru a chwmnïau trenau eraill i gadw teithwyr i symud lle y gallwn."

Mae Trafnidiaeth Cymru yn eiddo'n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru.

Mewn llythyr at Mr Drakeford dywedodd arweinydd Torïaidd y Senedd: "Os gwelwch yn dda a allwch chi egluro pa wybodaeth y gwnaethoch seilio eich ateb arni neu a allwch gadarnhau y byddwch yn ysgrifennu at y Llywydd i gywiro eich camgymeriad?"

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher: "Mae rhywfaint o rwystredigaeth, rwy'n meddwl, wedi bod am rai sylwadau ynghylch a oedd gweithwyr rheilffyrdd yng Nghymru wedi'u hadleoli i Loegr, sydd wedi'i egluro ers hynny.

"Rwy'n gobeithio y bydd y prif weinidog hefyd yn egluro ei sylwadau ddoe ar hynny."

Er gwaetha'r feirniadaeth mae Llywodraeth Cymru yn ategu sylwadau Mr Drakeford.

Dywedodd llefarydd: "Mae Network Rail wedi rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio eu signalwyr wrth gefn, y mae rhai ohonynt yn gweithio yng Nghymru fel arfer, i gadw llinellau yn Lloegr i redeg fel rhan o'u strategaeth llwybrau diwygiedig i ddelio â'r anghydfod."