Rheolau newydd yn rhoi llai o amser i gwyno am ASau
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid gwneud cwyn am ymddygiad Aelodau o Senedd Cymru o fewn chwe mis yn hytrach na blwyddyn yn dilyn newidiadau dadleuol i'r broses.
Bydd unrhyw gwynion 'hwyr' ond yn cael eu hystyried os yw'r comisiynydd safonau yn derbyn fod rheswm dilys dros oedi.
Mae un o'r undebau llafur wedi rhybuddio na ddylid defnyddio'r newid fel modd i "droi dalen newydd i fwlis".
Mynna'r FDA, sy'n cynrychioli staff yn y Senedd, fod angen "ffenest" i ystyried cwynion hanesyddol.
Maen nhw'n galw am fabwysiadu trefn lwyr annibynnol, yn debyg i'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan.
'Sicrhau fod y cof yn ffres'
O dan y drefn newydd, gall y pwyllgor safonau - grŵp trawsbleidiol o wleidyddion - ddewis peidio â chyhoeddi canfyddiadau'r comisiynydd safonau.
Y comisiynydd sy'n craffu ar gwynion ar ran y Senedd ac ar hyn o bryd mae ei adroddiadau'n cael eu cyhoeddi.
Dywedodd Vikki Howells, yr AS Llafur sy'n cadeirio'r pwyllgor, fod newid y terfyn amser yn dod i rym er mwyn "sicrhau fod y cof yn ffres a'r dystiolaeth ar gael".
Mae disgwyl i ASau ddilyn cod ymddygiad Senedd Cymru yn eu bywydau proffesiynol a phersonol.
Ymysg y rheolau mae ymroddiad i beidio dwyn anfri ar enw da'r Senedd, peidio ymosod yn bersonol ar neb, glynu at y gyfraith ac ymatal rhag camddefnyddio adnoddau neu lwfansau.
Mae gan y cyhoedd hawl i wneud cwyn am ASau i'r comisiynydd, Douglas Bain.
Os yw'n ymchwilio ac yn canfod fod rheolau wedi'u torri, mae'r pwyllgor wedyn yn penderfynu a ddylid dyfarnu cosb - a allai gynnwys gwaharddiad dros dro o'r Senedd a cholli tâl.
Dywedodd Mr Bain y byddai'r rheol newydd chwe mis yn atal "camddefnydd" o'r broses lle'r oedd cwynion yn cael eu "dal yn ôl tan fod yr achwynwr yn teimlo y gellid gwneud y mwyaf o niwed gwleidyddol".
Mynnodd y byddai'r pŵer i benderfynu fod yna "reswm dilys" dros oedi yn sicrhau na fyddai achwynwyr ar eu colled.
Dywedodd Gareth Hills o'r FDA: "Rydym yn deall y rhesymeg dros osod amserlen am wneud cwynion, ond allwn ni ddim caniatáu i hyn fod yn ffordd i droi dalen newydd i fwlis, a'r sawl sy'n torri rheolau drosodd a throsodd.
"Pan mae'r newidiadau yma'n dod i rym, mae angen ffenestr i staff allu dod â chwynion hanesyddol gerbron."
Ychwanegodd nad y comisiynydd ddylai gael y pŵer i benderfynu beth ydy "rheswm dilys" dros oedi - yn hytrach dywed fod angen trefn glir i'w dilyn mewn achosion hanesyddol.
"Mae'n bosib rhagweld amgylchiadau lle nad yw staff yn teimlo'n gyfforddus yn cwyno tan fod AS wedi gadael y Senedd, ac mae hyn yn debycach o ymwneud â honiadau difrifol iawn megis aflonyddu rhywiol," meddai.
'Agored i'w gamddefnyddio'
Mae'r drefn newydd hefyd yn diddymu'r hawl i ASau apelio yn erbyn dyfarniad - er i un aelod, y Ceidwadwr Andrew RT Davies, wrthwynebu.
Dywedodd Mr Bain fod y broses "yn agored i'w chamddefnyddio gan ASau oedd 'mond am oedi ac oedi cyn i'r canlyniad gael ei gyhoeddi".
Er enghraifft, ni chyhoeddwyd canlyniad cyfres o ymchwiliadau i ymddygiad Neil McEvoy, y cyn-AS dros Ganol De Cymru, tan ar ôl etholiad 2021, er i'r pwyllgor gwblhau eu casgliadau rai misoedd ynghynt.
Dyfarnwyd fod Mr McEvoy wedi torri'r rheolau droeon, ond gan ei fod wedi gadael y Senedd ni roddwyd y gosb oedd wedi'i hargymell.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021