Buddugoliaeth ryfeddol i Forgannwg yng Nghaerlŷr
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth ryfeddol i Forgannwg ddydd Sadwrn wedi pedwar diwrnod o chwarae yn erbyn Caerlŷr.
Cafodd sawl record ei thorri ym matiad Morgannwg - yr amlycaf ohonynt oedd Sam Northeast yn sgorio 410 yn ddiguro - y sgôr uchaf i chwaraewr o Forgannwg erioed a'r drydedd uchaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Brian Lara sydd yn dal y record ers 1994 gyda 501 di-guro i Sir Warwick. Heblaw am 400 a sgoriodd Lara yn erbyn Lloegr yn 2004 dyma'r unig sgôr dros bedwar cant yn y ganrif hon.
Roedd batiad cyntaf Caerlŷr yn sylweddol - 584 i gyd allan.
Ond gyda chyfraniad Northeast a 139 gan Colin Ingram a 191 yn ddiguro gan Chris Cooke fe wnaeth Morgannwg gau eu batiad ar 795 am bum wiced.
Gan fod y tywydd wedi newid, hynny'n rhyddhad i'r bowlwyr, y gobaith oedd cipio buddugoliaeth yn erbyn y tîm cartref yn ail gynghrair Pencampwriaeth y Siroedd.
Fe gwympodd wicedi Caerlŷr yn gymharol sydyn ac yr oedd gan Forgannwg obeithion clir pan oedd y tîm cartref ar 128 am 5 wiced.
Gwnaeth Wiaan Mulder waith da yn atal Morgannwg gan sgorio 59 ond fe syrthiodd y wiced olaf ac yr oedd Caerlŷr 28 rhediad yn brin.
Nid oedd neb yn rhagweld buddugoliaeth i Forgannwg ar ôl batiad cyntaf Caerlŷr, ond buddugoliaeth a gafwyd o fatiad a 28 rhediad.
Mae Morgannwg bellach yn ail yn y tabl ac wedi dringo uwchben Middlesex sef eu gwrthwynebwyr pennaf yn yr ymdrech am ddyrchafiad.