Mwyafrif o bobl i weld deintydd unwaith y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Bydd y mwyafrif o oedolion yng Nghymru yn cael eu gwahodd i weld deintydd unwaith y flwyddyn yn hytrach na bob chwe mis o ganlyniad i newidiadau sy'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Prif Swyddog Deintyddol newydd Cymru, Andrew Dickenson, fe fydd y diwygiadau'n caniatáu i ddeintyddion ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf angen cymorth.
Dywed hefyd y bydd y drefn newydd yn galluogi i ddeintyddfeydd dderbyn hyd at 112,000 o gleifion newydd ar y gwasanaeth iechyd bob blwyddyn.
Ond dywedodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru bod y cynlluniau'n ymddangos fel petaen nhw wedi eu llunio "ar gefn amlen".
System 'hen ffasiwn'
O ganlyniad i welliannau i iechyd deintyddol y boblogaeth mae'r Athro Dickenson yn dadlau fod apwyntiadau bob chwe mis yn "hen ffasiwn".
Dros y ddau ddegawd diwethaf, meddai, mae gostyngiad cyson wedi bod yn lefelau pydredd dannedd, mae mwy o oedolion yn cadw eu dannedd ac mae llai angen dannedd gosod.
Dywedodd yr Athro Dickenson: "Bellach, mae pobl yn llawer gwell o ran cynnal iechyd y geg.
"Mae hyn, ynghyd â gwasanaeth rhagorol ein deintyddion, yn adlewyrchu manteision brwsio'r dannedd ddwywaith y dydd, yr arfer gyffredin o ddefnyddio past dannedd fflworid, ac osgoi byrbrydau a diodydd llawn siwgr rhwng prydau bwyd.
"Does dim angen i'r mwyafrif o oedolion weld eu deintydd bob chwe mis bellach."
"Drwy symud oddi wrth archwiliadau sy'n aml yn ddiangen, bydd gan ddeintyddion fwy o amser i ddarparu'r gofal personol ac wedi'i deilwra sydd ei angen ar bobl, a bydd yn haws derbyn cleifion newydd i gael eu trin gan y GIG."
Yn hytrach na chynnig apwyntiadau rheolaidd bob chwe mis, bydd deintyddion yn creu cynllun gofal personol ar gyfer unigolion fydd yn cael cyngor ynglŷn â pha mor aml dylen nhw gael eu gweld.
Os oes angen fe fydd rhai yn cael eu gweld yn amlach nag unwaith y flwyddyn.
Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn parhau i gael apwyntiadau bob chwe mis.
Bydd pawb sydd angen gofal deintyddol brys, sef y rhai sydd mewn poen difrifol, y mae eu hwyneb wedi chwyddo, neu sydd â thymheredd uchel, yn cael eu gweld yn gyflym.
Y cyngor yw i gysylltu â'r gwasanaeth 111 yng Nghymru.
Angen buddsoddiad i gadw staff
Yn ôl yr Athro Dickenson bydd y drefn newydd yn creu "capasiti" ac mae'n amcangyfrif y bydd y newidiadau'n creu lle i 112,000 o gleifion ychwanegol ledled Cymru i gael eu trin gan y gwasanaeth iechyd.
Byddai hynny, meddai, yn cyfateb i un claf ychwanegol ar gyfer pob deintydd ym mhob deintyddfa.
Ychwanegodd: "Drwy gynyddu nifer y deintyddion a'u helpu i weithio'n wahanol gyda'u cleifion, gallwn sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd am gael gofal deintyddol y GIG yn gallu cael y gofal hwnnw."
Deintydd yng Nghaerdydd yw Tristan Roberts ac mae ganddo amheuon ynghylch cynlluniau'r llywodraeth.
"Mae'r syniad yn un neis ond y gwirionedd ydy mae hwn yn rhywbeth mae deintyddion wedi bod yn ymdrechu i wneud ers blynydde' felly dwi ddim yn gwybod faint o wahaniaeth bydd e'n ei wneud," meddai.
Mae'n credu hefyd credu bod y ffigwr o 112,000 o gleifion newydd yn afrealistig, ac yn dweud y byddai'n "hoffi'n fawr i wybod" o ble ddaw'r ffigwr hwnnw.
Mae'n amau bod yr awdurdodau "jyst 'di pigo allan yr achos gore maen nhw'n gallu meddwl amdan lle does na'r un person angen unrhyw lenwad ac mae popeth yn grêt".
"Dwi'n gobeithio bydd mwy o le i weld cleifion newydd ond dydy hwn ddim yn rhywbeth sy'n mynd i weithio am gyfnod hir a dwi'n meddwl bydd yna lot o broblemau a lot o straen."
Dywed Tristan Roberts ei fod eisoes wedi ymestyn ei ddiwrnod gwaith er mwyn gallu gweld mwy o gleifion a bod yna "straen enfawr" ar ddeintyddion.
"Y broblem ydy does yna ddim digon o ddeintyddion yn y gweithlu i allu rhoi'r gofal sydd ei angen i'r boblogaeth.
"'Da ni'n gallu neud toriadau yn fan hyn ac yn y man, ond mae pwynt yn dod lle mae yna ormod i ofyn o ddeintyddion a dyna'r pryder sydd ganddon ni."
Dywedodd Maureen Howells o Landeilo y bu'n rhaid iddi gael apwyntiad argyfwng yn ystod y pandemig er mwyn tynnu dant.
Bu'n rhaid iddi disgwyl deufis cyn cael apwyntiad ac fe gostiodd y driniaeth £100.
"Bydd dannedd pobl yn mynd yn waeth," meddai.
"Ni wastad wedi gorfod neud dwywaith y flwyddyn... siŵr mae rheswm pam ni wedi dechre' 'neud e fel 'na, so pam ydyn ni mo'yn stopio gyda fe nawr?"
Roedd yn rhaid i Cain Price dynnu un o'i cilddannedd (molar) ôl wythnos diwethaf, ac mae'n dweud na fu'n hawdd cael apwyntiad.
"Mae ddim yn neud lot o sens, mae rhaid iti cadw ar top iechyd gyda dannedd ti," meddai.
"Fi'n credu taw bob chwe mis yw amser da i gael check-up."
Ond yn ôl Cadeirydd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru, Russell Gidney mae'r Llywodraeth yn ceisio "consurio apwyntiadau newydd".
"Yn anffodus mae'r honiadau yma'n ymddangos fel petaen nhw wedi eu taflu at ei gilydd ar gefn amlen," dywedodd.
Dywed y corff bod y rhan fwyaf o ddeintyddion eisoes wedi ymestyn y bwlch rhwng apwyntiadau yn unol â'r canllawiau presennol.
Rhybuddiodd y Gymdeithas hefyd, o gofio'r "lefelau uchel o angen sydd heb ei ddiwallu yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y wlad," bydd "cyfradd uchel o gleifion ar draws Cymru'n dal i fod angen apwyntiadau mwy aml".
Ychwanegodd y Gymdeithas bod nifer fawr o ddeintyddion yn gadael y gwasanaeth gyda morâl isel, a bod angen buddsoddiad i gadw staff.
Pwyslais ar ofal ataliol
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu ei bod am recriwtio mwy o ddeintyddion a staff deintyddol drwy gynnig cymorth fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gyda phractisau yng Nghymru, a thrwy ddatblygu trefniadau gweithio newydd i ddenu mwy o ddeintyddion i weithio yma.
Mae mwy na thri chwarter (78%) o bractisau deintyddol y gwasanaeth iechyd wedi cytuno i gontract deintyddol sydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal a thriniaeth ataliol, yn hytrach na thargedau gweithgaredd o dan yr hen gytundeb.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog pobol sy'n cael trafferth cofrestru gyda phractis deintyddol sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG yn lleol i gysylltu â'r bwrdd iechyd.
Ond mae'r Llywodraeth yn cydnabod y bydd yn rhaid i rai aros yn hirach am ofal deintyddol arferol gan bod deintyddion yn dal i weithio drwy driniaethau gafodd eu hoedi yn ystod y pandemig.
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwr Cymreig, Russell George yn "croesawu'r newid tuag at apwyntiadau flynyddol yn y deintydd".
"Rwy'n credu byddai hynny'n cefnogi'r broses o leihau rhestrau aros deintydd yr NHS heb effeithio ar gleifion yn ddifrifol," dywedodd.
Yn ôl llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dydy "lleihau mynediad i gleifion iach ddim y datrysiad y mae Llywodraeth Cymru'n ei gredu iddo fod - prin ei fod yn blastr, hyd yn oed ar rywbeth sy'n fater ehangach o lawer."
Ychwanegodd: "Y gwirionedd yw na fydd hyn yn mynd i'r afael â'r prinder deintyddion, y lotri cod post presennol o ran gwasanaethau deintyddol, na'r trafferthion cael trwodd ar rif ffôn y gwasanaeth brys."
Er ei bod yn rhoi "croeso gofalus" i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, ei fod yn "gwneud dim i wella'r argyfwng staffio yn y sector - gwraidd y broblem o ran clirio rhestrau aros".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020