Galw am gyflymu triniaethau deintyddol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, skynesher/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cam cyntaf i'r cynllun dychwelyd yn dechrau ym mis Gorffennaf

Mae deintyddion blaenllaw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o ganiatáu deintyddion i ddarparu mwy na gofal brys yn unig.

Mae strategaeth ar gyfer ailgychwyn deintyddiaeth yng Nghymru yn awgrymu na fydd apwyntiadau arferol ar gael tan fis Ionawr 2021.

Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain mae 'na "alw mawr, cynyddol" am weithredu cyflymach.

Ond dweud taw ei bwriad yw dilyn "cynllun graddol a gofalus" mae Prif Swyddog Deintyddol Cymru.

Ychwanegodd Dr Colette Bridgman fod y llywodraeth yn hollol ymwybodol o bryderon ei chydweithwyr ac y byddai'r amserlen yn cael eu hadolygu'n gyson.

Fe gafodd ei chynlluniau eu datgelu mewn llythyr at ddeintyddion Cymru sy'n nodi y byddai'r ddarpariaeth yn cael ei hadfer mewn tri cham.

Dim ond triniaethau hanfodol mae deintyddion yn cael eu gwneud ers 17 Mawrth, gyda chleifion sydd angen triniaethau sy'n cynnwys drilio cyflym yn cael eu cyfeirio at ganolfannau deintyddol brys sydd wedi'u sefydlu ledled y wlad.

Byddai'r cam cyntaf - o fis Gorffennaf i fis Medi - yn gweld mwy o waith yn cael ei gyflawni yn y canolfannau brys gyda chleifion yn cael eu hailasesu yn eu deintyddfeydd arferol.

Yn yr ail gam - o fis Hydref i fis Rhagfyr - byddai deintyddion yn cael mynd i'r afael â'r llwyth gwaith oedd wedi cronni ar ôl cael ei ohirio.

Dim ond yn ystod y trydydd cam - o fis Ionawr i fis Mawrth 2021 - y byddai'r gwaith o ddarparu gofal arferol yn cael ei adfer.

Dywedodd Tom Bysouth, sy'n cadeirio pwyllgor Cymreig o fewn Cymdeithas Ddeintyddol Prydain bod y sefyllfa'n "bryder mawr" i nifer yn y diwydiant a bod deintyddion yn effeithiol iawn am reoli unrhyw draws-heintio.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Lowri Leeke: 'Amser hir i'r cleifion a ni orfod aros'

Mae Dr Lowri Leeke, sy'n ddeintydd yn Nhroedyrhiw ger Merthyr Tudful yn cytuno ac yn mynnu bod y sefyllfa bresennol yn heriol.

Dywedodd ei fod yn mynd i fod yn "dipyn o sialens" i allu ailddechrau ar ei gwaith.

"Ni wedi bod ar gau am 11 wythnos, sy'n amser hir a ma' da ni lot o gleifion sydd angen triniaeth a 'da ni'n methu'n deg a chyflawni beth ni moyn 'neud a 'da ni ddim yn siŵr iawn pryd fyddwn ni'n gallu ailddechrau.

"Mae sôn am fis Hydref lle byddan ni'n dechrau gwneud peth triniaeth ond y driniaeth mawr a 'normal' ni'n gyfarwydd â - mis Ionawr nesa' - sy'n amser hir i'r cleifion a ni orfod aros."

'Newid byd'

Ychwanegodd bod llwyth o waith i'w wneud i orffen y triniaethau oedd ar eu hanner cyn i'r sefyllfa newid a hefyd i ddelio gyda phobl sydd wedi cael problemau yn y cyfamser.

"Mae'n mynd i fod yn broblem i allu gweithio gyda'n driliau, achos y math o waith ry'n ni'n 'neud, 'dyn ni ddim yn siŵr iawn pa mor hir 'da ni'n gorfod gadael rhwng pob claf sy'n dod mewn.

"Felly pan yn ni'n gyfarwydd a gweld tua 30, 40 claf bob dydd ni nawr yn mynd i allu gweld rhyw wyth neu naw.

"Mae'n mynd i fod yn newid byd i ni a newid byd i'r cleifion hefyd."

Ychwanegodd mai mynd yn waeth fyddai'r sefyllfa wrth oedi gwneud triniaethau yn enwedig gyda phlant.

"Os oes gyda chi dwll bach i lenwi nôl ym mis Mawrth, byddai'n lot yn haws gadael i'r plentyn ei gael wedi ei lenwi yn hytrach na gadael e chwech, naw mis - mae'r twll yn mynd i fod yn fwy o faint.

"Mae'r driniaeth yn mynd i fod yn wahanol i'r claf ac yn fwy cymhleth i ni ddeintyddion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn Lloegr, bydd deintyddion yn dechrau ailagor o 8 Mehefin - ond mae 'na ddadlau bod Cymru mewn gwell sefyllfa gan bo rhai deintyddfeydd wedi gweld cleifion wyneb yn wyneb trwy gydol y cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd Dr Bridgman bod Cymru "ar y blaen."

"Mae deintyddfeydd ar agor ac wedi bod yn cynnig cyngor o bell.

"Maen nhw wedi siarad â 8,500 o gleifion ers mis Mawrth, gyda 2,500 arall wedi eu gweld mewn canolfannau brys ar draws Cymru," meddai.

Mae'r ddogfen sy'n nodi'r strategaeth yn dweud y bydd angen ystyried "newidiadau radical" i ddeintyddiaeth yn sgil yr ansicrwydd am ddrilio dannedd, yr angen am bellter cymdeithasol a chael gafael ar offer amddiffyn personol.

Ychwanegodd Dr Bridgman ei bod yn "annhebygol iawn" y byddai'r diwydiant yn dychwelyd at ddarparu'r gwasanaeth oedd ar gael cyn Covid-19.