Morgannwg yn curo Sir Derby yn y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
Mae Morgannwg wedi curo Sir Derby o wyth wiced yng ngêm agoriadol y Cwpan Undydd.
Mewn gêm a gafodd ei heffeithio gan y tywydd, 110 oedd cyfanswm Sir Derby yn eu 30 pelawd nhw, gyda Mattie McKiernan yn sgorio 43.
Llwyddodd Timm van der Gugten i gymryd pedair wiced i Forgannwg, gyda Jamie McIlroy a David Lloyd yn cymryd dwy yn un.
Fe gymerodd hi lai na 22 pelawd i Forgannwg gyrraedd y targed, er iddynt golli dwy wiced gynnar.
Kiran Carlson (54 heb fod allan) a Colin Ingram (30 heb fod allan) sgoriodd y rhediadau hollbwysig i'r Cymry, wrth iddyn nhw gyrraedd 112-2 i ennill.