Dyn o Gaerdydd wedi marw wrth nofio yn y môr yn Tenerife
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd wedi marw tra ar wyliau ar Ynys Tenerife, ddiwrnod cyn y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed.
Yr amheuaeth yw bod Nicky Desmond, o ardal Gabalfa, wedi mynd i drafferthion a boddi wrth nofio yn y môr oddi ar arfordir pentref Callao Salvaje.
Cafodd ei ddisgrifio gan gyfaill fel person "afieithus a rhadlon" a oedd "wastad yn barod i helpu pawb".
Mae ffrindiau a pherthnasau nawr yn gobeithio codi £10,000 at gost hedfan ei gorff yn ôl i'r DU.
Roedd Mr Desmond ar ddiwrnod cyntaf y gwyliau i ddathlu ei ben-blwydd, yn ne orllewin yr ynys, pan fu farw ar 29 Gorffennaf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd ei gludo i ysbyty yn nhref gyfagos Adeje.
"Roedd e wastad yn hapus, wastad yn afieithus," meddai un o'i gyfeillion Sacha Pugsley.
'Colled sylweddol' i'r gymuned
Mae'r dudalen ariannu torfol sydd wedi ei sefydlu i ariannu cludo ei gorff adref yn ei ddisgrifio fel "enaid hyfryd, brawd, mab yr oedd pawb a'i gwrddodd yn ei garu".
Ychwanegodd bod "cyfeillion a chymuned Gabalfa wedi dioddef colled sylweddol gyda marwolaeth ddiweddar eu cyfaill annwyl Nicky.
"Er na allwn ddileu'r boen, fe allwn ni helpu'r teulu serchus yma gyda'r pwysau ariannol mawr sydd nawr o'u blaenau.
"Os gwelwch yn dda, ystyriwch rhoi cyfraniad wrth iddyn nhw osod eu mab i orffwys a chymryd amser i alaru."
Cafodd balŵns eu rhyddhau er cof amdano ar y diwrnod y byddai wedi troi'n 30 oed.
Mae disgwyl y bydd cwest yn cael ei agor ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, unwaith y bydd y crwner wedi derbyn adroddiad gan yr awdurdodau yn Sbaen.