Morgannwg yn trechu Caint yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Colin Ingram yn erbyn CaintFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Torrodd Colin Ingram (155) record Huw Morris am y cyfanswm unigol uchaf mewn gêm Rhestr A yng Ngerddi Sophia

Mae Morgannwg wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth allan o ddwy ar ddechrau cystadleuaeth y Cwpan Undydd eleni trwy guro Caint o dair wiced.

Roedden nhw eisoes wedi trechu Sir Derby o wyth wiced yn y gêm agoriadol ddydd Mawrth.

304 am wyth wiced oedd cyfanswm Caint wedi 50 pelawd, gyda Joey Evison yn sgorio 109, wedi i Forgannwg galw'n gywir a phenderfynu maesu.

Llwyddodd Colin Ingram, James Weighell a Dan Douthwaite i gymryd dwy wiced yr un i Forgannwg.

Ac fe sgoriodd Ingram (155) dros hanner cyfanswm Morgannwg - 308 am saith wiced - mewn ymateb, gan dorri record Huw Morris o ran y cyfanswm unigol uchaf mewn gêm Rhestr yng Ngerddi Sophi.

Roedd Tom Cullen ar 80 o rediadau heb fod allan erbyn i'w dîm gyrraedd y nod yn y 49fed pelawd.

Pynciau cysylltiedig