Beiciwr cwad wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heol ddwyreiniol y Bontfaen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffordd ar gau am rai oriau wedi'r digwyddiad

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod beiciwr cwad wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd bnawn Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn ardal Treganna am tua 17:00.

Er iddo dderbyn triniaeth feddygol, bu farw'r dyn 34 oed yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu mai dim ond un cerbyd - beic cwad Yamaha gwyrdd a du - fu'n rhan o'r gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd blodau i'w gweld ger lleoliad y gwrthdrawiad fore Mawrth

Cafodd y ffordd ei chau gan yr heddlu am rai oriau wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad, ond mae hi bellach wedi ailagor.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac maen nhw'n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.

Pynciau cysylltiedig