Cyn-gariad Ryan Giggs wedi 'sgrechian mewn poen'
- Cyhoeddwyd
Clywodd rheithgor fod cyn-gariad Ryan Giggs wedi "sgrechian mewn poen" yn ystod galwad 999 wedi iddi honni ei fod wedi ei tharo yn ei hwyneb gyda'i ben.
Mae'r cyn-bêl-droediwr Manchester United a Chymru ar brawf yn Llys y Goron Manceinion wedi'i gyhuddo o ymosod ar Kate Greville, 38, gan achosi niwed corfforol iddi, yn ei gartref yn Worsley, Manceinion.
Dywedir iddo hefyd ymosod ar chwaer Ms Greville, Emma, 26, trwy ei tharo ar ei gên gyda'r benelin yn ystod yr un digwyddiad ar 1 Tachwedd, 2020.
Mae Ryan Giggs, sydd hefyd wedi ei gyhuddo o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, yn gwadu'r cyhuddiadau.
Galwad 999
Roedd Kate Greville wedi dychwelyd i'r cyfeiriad ar ei phen ei hun mewn tacsi yn dilyn ffrae ar ôl cinio gyda Mr Giggs yn ei westy yng nghanol dinas Manceinion.
Clywodd y llys ei bod hi wedi ei gyhuddo o anfon negeseuon i gyfres o ferched yn ystod y misoedd cynt.
Cyrhaeddodd Mr Giggs, 48, ar wahân ac fe barhaodd y ffraeo wrth iddyn nhw ymladd dros eu ffonau symudol, clywodd Llys y Goron Manceinion.
Fe wnaeth Emma Greville, oedd yn gofalu am gi'r cwpl, alw'r heddlu am 22:05 a phan ofynnwyd iddi beth oedd wedi digwydd dywedodd: "Ymosodiad. Mae wedi ymosod arni gyda'i ben."
Yn recordiad yr alwad, a gafodd ei chwarae i'r rheithgor, mae hi'n annog yr heddlu i "ddod yn gyflym" gan fod dynes - Kate Greville - i'w chlywed yn crio.
Mae triniwr galwadau yr heddlu yn gofyn: "Oes angen ambiwlans ar y ddynes honno sy'n sgrechian yn y cefndir?"
Atebodd Emma Greville: "Dwi'n meddwl, ie. Mae o newydd ei tharo yn ei hwyneb gyda'i ben."
Mae Mr Giggs yn gwadu'r honiadau yn ogystal â chyhuddiad o reoli Kate Greville drwy orfodaeth rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.
Bydd yr achos yn ailddechrau fore Llun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022