Sir Efrog yn trechu Morgannwg yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Kiran CarlsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kiran Carlson (64) oedd yr unig fatiwr i achosi unrhyw broblemau gwirioneddol i fowlwyr Sir Efrog

Cafodd Morgannwg eu trechu gan Sir Efrog yn y Cwpan Undydd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Ar ôl dewis batio gyntaf, llwyddodd Sir Efrog i gyrraedd cyfanswm o 257-9 yn eu 50 pelawd nhw.

Harry Duke (87) a Jonathan Tattersall (55) oedd y sêr gyda'r bat, tra bod James Weighell a Jamie McIlroy wedi cymryd dwy wiced yr un i Forgannwg.

Ond digon llipa oedd ymateb Morgannwg wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 234, gyda phelawd i fynd.

Kiran Carlson (64) oedd yr unig fatiwr i achosi unrhyw broblemau gwirioneddol i fowlwyr yr ymwelwyr.

Pynciau cysylltiedig