Morgannwg yn colli i Northampton yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Morgannwg v Sir NorthamptonFfynhonnell y llun, David Rogers

Mae Morgannwg wedi colli o chwe wiced i Sir Northampton yn y Cwpan Undydd.

Yn batio gyntaf yn Northampton, fe gyrhaeddodd Morgannwg gyfanswm o 221 yn eu batiad.

David Lloyd oedd y prif sgoriwr gyda 65, ond fe fethodd sawl un o fatwyr gorau'r tîm a chyrraedd ffigurau dwbl cyn colli eu wicedi.

Roedd 'na gyfraniadau gwell ymhellach i lawr y rhestr, gan gynnwys gan Joe Cooke, 39, a Dan Douthwaite, 30.

Roedd Sir Northampton angen llai na 36 pelawd i gyrraedd y targed, gyda mwyafrif y rhediadau'n dod gan y batwyr agoriadol Ricardo Vasconcelos (104) ac Emilio Gay (81).

Cyfanswm Sir Northampton oedd 225-4, gan ennill o chwe wiced.

Pynciau cysylltiedig