Gŵyr: Achub dau berson o gwch aeth ar dân ger Bae Caswell
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi cael eu hachub o gwch aeth ar dân oddi ar arfordir penrhyn Gŵyr ac mae cyngor i bobl beidio a nofio yn y môr ger Bae Caswell.
Roedd Gwylwyr y Glannau a'r bad achub o'r Mwmbwls yn rhan o'r ymdrech ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Mae'r cwch 37 troedfedd (11m) bellach ger traeth Brandy Cove a'r dau berson oedd yn teithio arno yn ddiogel.
Yn ôl Cyngor Abertawe, cafodd olew ei ollwng o'r cwch ac maen nhw wedi gofyn i bobl beidio a nofio yn y môr yno.
Dywedodd Ieuan Williams, arweinydd tîm gyda Gwylwyr y Glannau ei fod yn ddigwyddiad "dramatig".
"Gwnaeth y bad achub waith anhygoel o dynnu dau berson oddi ar y cwch oedd yn llosgi.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb yn yr ardal ar eu cychod eu hunain a ddefnyddiodd eu radios VHF i'n hysbysu o'r hyn oedd yn digwydd ac a arhosodd yn y cyffiniau hefyd rhag ofn iddynt allu helpu".