Teyrngedau i 'gawr o ddyn busnes' o'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i un o sefydlwyr cwmni offer adeiladu blaenllaw yn y gogledd.
Roedd gan John Llewelyn Jones, 80, ran flaenllaw yn natblygiad cwmni Huws Gray ers ei sefydlu yn 1990.
Er cychwyn y busnes gydag ond un safle yn Y Gaerwen ar Ynys Môn, mae gan y cwmni bellach 200 o fannau gwerthu ar draws y DU.
Yn frodor o ardal Pwllheli roedd John Llew, fel ei adnabyddir, yn parhau i fod yn gadeirydd y cwmni.
Wedi ei sefydlu ar y cyd gyda Terry Owen, mae Huws Gray bellach yn cyflogi dros 5,000 o weithwyr, ac yn noddi sawl clwb a chynghrair chwaraeon yn y gogledd.
Dywedodd yr Aelod Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, fod John Llewelyn Jones yn "gawr o ddyn busnes".
"Tra bod llawer o gwmnïau'n cyrraedd rhyw faint ac yna cael eu gwerthu, roedd John Llew yn deall pwysigrwydd tyfu Huws Gray yng Nghymru wledig, efo'i bencadlys yn Llangefni yn creu swyddi o safon uchel, a'r elw yn aros yng Nghymru," meddai.
"Pan yn trafod busnes a Chymru gyda John Llew, roeddech chi'n gwybod eich bod yn siarad â dyn gyda gweledigaeth wirioneddol.
"Pob cydymdeimlad i'w deulu, cyfeillion a chydweithwyr," ychwanegodd.
Dywedodd deilydd portffolio datblygiad economaidd a dirprwy arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones, fod llwyddiant John Llewelyn Jones yn y byd busnes wedi bod o fudd mawr i economi y gogledd orllewin.
"Does dim dwywaith fod y rhan y chwaraeodd yn natblygiad Huws Gray wedi bod o fudd aruthrol," meddai wrth Cymru Fyw.
"Yn sicr fyswn yn disgrifio Huws Gray fel stori o lwyddiant enfawr wrth iddo dyfu o un safle yng Ngaerwen - ond dydi o ddim wedi hawlio'r holl sylw mae'n ei haeddu o gysidro ei fod yn un o'r cwmnïau mwyaf yn y maes yn yr holl DU erbyn hyn.
"Mae na gymaint o ewyllys da i'r cwmni yma ym Môn, ac mae'n parhau i fod yn gyflogwr mawr yn lleol.
"Dwi'n ddiolchgar iawn iddo am ei gyfraniad ac yn cydymdeimlo gyda'r teulu."