Cyngor Clirio i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Gyda miloedd o fyfyrwyr Lefel A yng Nghymru newydd dderbyn eu canlyniadau, mae'n gallu bod yn gyfnod dryslyd i lawer.
Efallai eich bod heb dderbyn eich graddau disgwyliedig neu wedi newid eich meddwl am ba gwrs i'w dilyn neu brifysgol i'w fynychu.
Mae'n rhaid i chi gael "ffydd yn eich penderfyniadau". Dyna gyngor Dan Rowthbam, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.
Dan, aeth drwy broses Clirio UCAS ei hun i fynd i'r brifysgol, sy'n rhannu ei gyngor gyda Cymru Fyw.
Stori Dan: 'Doedd dim angen i fi boeni'
Mae pawb yn meddwl am y dyddiad yna ym mis Ionawr lle mae'n rhaid i chi gyflwyno cais, 'neud y datganiad personol yna, eistedd gyda'ch pennaeth blwyddyn yn cribo trwy bob dim ac wedi bod yn y diwrnodau agored.
Ond wnes i gyrraedd pwynt lle o'n i itha ifanc yn y mlwyddyn i a o'n i jest yn teimlo erbyn y mis Ionawr yna nad o'n i'n barod i fynd i brifysgol ac ymrwymo i ddau neu drio o golegau.
Diwrnod canlyniade oedd hi pan wnes i benderfynu, 'Iawn, dwi wedi clywed am clirio, dwi ddim 100% yn siwr ond tra bo' Mam yn coginio cinio, Dad yn 'neud rhywbeth mas yn yr ardd, wnes i ffonio'r Drindod and the rest is history fel maen nhw'n gweud.
Roedd y broses o gael fy nerbyn i'r Drindod a'r cyfnod cyn cyrraedd y brifysgol yn gyffrous wedyn. Mae grŵpiau yn dechre popo lan ar Facebook ac i chi'n gallu ymuno gyda nhw a dwi'n cofio chwilio am dŷ, a phobl i fyw gyda nhw. Doedd dim angen i fi boeni.
Beth yn union yw Clirio?
Mae'n enw afiach ond dyw e ddim yn rhwybeth sydd rhaid i chi fod ofn o gwbl. Mae'n gyfle. Dyma'r cyfnod i chi newid eich meddwl am ba bynnag reswm; falle o'ch chi ddim am fynd i brifysgol, falle bo' chi ddim wedi cael y gradde o'ch chi'n disgwyl ac yn y blaen.
Sdim rhaid i chi 'neud unrhyw beth erbyn y diwrnod canlyniadau neu ar y diwrnod canlyniadau. Mae'r cyfnod clirio yn mynd reit lan at ddechrau'r tymor ac mae pob sefydliad yn cael dyddiad cychwyn gwahanol ac ar agor tan tua canol mis Hydref.
Ond wrth gwrs mae clirio yn ddibynnol ar faint o lefydd sydd dal ar gael gan sefydliadau.
Clirio yn agor drysau newydd...
Os nad ydych chi wedi cael yr hyn oeddech chi yn ei ddisgwyl ar ddiwrnod canlyniadau, mae siom yn naturiol achos 'dych chi wedi rhoi llawer iawn o amser i hyn; oriau o adolygu, o ysgrifennu a threulio'ch amser cinio gyda'ch athrawon er mwyn paratoi.
Mae'n hollol iawn i deimlo'n siomedig ond mae yna gyfleoedd eraill i chi. Fel wedes i, sdim rhaid i chi 'neud y penderfyniad yna yn syth, felly os i chi yn mynd i ddathlu gyda'ch cyfoedion chi ar ddiwrnod canlyniadau, ewch i fwynhau. Meddyliwch amdano fe ar ôl y penwythnos.
Y cyfnod ar ôl diwrnod canlyniadau…
Fel arfer yn y cyfnod yma, mae yna ddiwrnodau agored felly os ydych chi yn ansicr, peidiwch jest codi'r ffôn ar ddiwrnod clirio neu peidiwch jest treulio'r diwrnod yn edrych ar wefan UCAS yn mynd rownd a rownd.
Ewch amdani, ewch i edrych ar sefydliadau gwahanol, a jest gwnewch yn siŵr bod pethe yn teimlo yn iawn i chi a dwi'n meddwl mai dyna sy'n bwysig.
Sdim rhaid i chi fynd i banig, a sdim rhaid i chi weithredu mor sydyn â hynny. Mae yna amser a mae yna gefnogaeth ar gael.
Beth fyddai dy gyngor di i'r Dan ifanc, 18 oed?
Jest i beidio bod ofn, i gymryd cam yn ôl a mynd, 'Nage ti yw'r unig un yn y sefyllfa yna, mae miloedd o bobl yn mynd trwy'r system Clirio bob blwyddyn'.
Dwi'n meddwl fod e'n bosib i deimlo yn eitha' unig achos falle bo chi heb gael y cynnwrf yna gyda phawb arall sydd wedi paratoi i fynd, i chi'n dechre hynny bach yn hwyrach.
Mae hynny yn golygu mae 'da chi gyfnod bach yn llai ond nath hynna ysgogi fi mewn gwirionedd, gwybod mai jest mis oedd gen i fynd i wneud hyn a hyn a hyn.
Dwi'n hoffi gwneud rhestrau felly oni'n gallu gweud cyllid myfyrwyr -tic, llety - tic ac yn y blaen.
Peidiwch byth bod ofn gofyn cwestiynau a chysylltu cyn i chi gyrraedd. Holwch y cwesitynau, os chi'n meddwl bo chi'n dwp, fi'n gaddo i chi, mae rhywun wedi gofyn yr un cwestiwn i'r un brifysgol ddeg o weithie yn barod. Maen nhw yna i helpu.
Byddwch â ffydd yn eich penderfyniadau a mwynehwch y profiadau yna achos dim ond unwaith i chi wir yn cael y cychwyn yna yn eich gyrfa neu mewn addysg uwch.
Hefyd o ddiddordeb: