Canlyniadau Safon Uwch: Llai'n derbyn y graddau gorau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sut mae disgyblion Ysgol David Hughes yn teimlo ar ôl derbyn eu canlyniadau?

Mae nifer y graddau Safon Uwch gorau wedi gostwng ers y llynedd wedi i ddisgyblion sefyll arholiadau haf am y tro cyntaf mewn tair blynedd.

Fe gafodd y profion ffurfiol eu canslo yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, gydag athrawon yn penderfynu ar raddau.

Serch y gostyngiad o'i gymharu â'r llynedd, roedd dros 40.9% o'r canlyniadau Safon Uwch yn raddau A* neu A, sy'n uwch na chanran 2019.

Roedd 17.1% o'r holl ganlyniadau yn raddau A*, o'i gymharu â 21.3% yn 2021 a 9.1% y 2019.

Roedd Cymwysterau Cymru wedi disgwyl gweld canlyniadau yn is na'r llynedd ond yn uwch na'r tro diwethaf gafodd arholiadau eu cynnal.

Dywedodd y rheolydd bod graddio disgyblion wedi bod yn fwy hael i adlewyrchu'r "ddwy flynedd fwyaf eithriadol hyd at eu harholiadau".

Cafodd 98% o ddisgyblion raddau A*i E, o'i gymharu â 99.1% y llynedd.

Myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau yn Abertawe ddydd IauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorfoledd wrth i'r myfyrwyr yma dderbyn eu canlyniadau yn Abertawe ben bore Iau

Dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker bod canlyniadau eleni tua hanner ffordd rhwng canlyniadau 2019 a 2021 pan gafodd graddau eu penderfynu gan athrawon.

"Roedd dychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig bob amser yn mynd i fod yn dasg fawr," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod bod dysgwyr yn bryderus am ddychwelyd i arholiadau, ond ar y cyfan, mae'r gyfres arholiadau wedi mynd yn dda, sy'n gyflawniad anhygoel i bawb fu'n rhan ohoni.

"Fel ym mhob blwyddyn, efallai na fydd rhai dysgwyr yn cael y graddau roedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw. Os na chest ti'r graddau rwyt ti eu hangen, paid â phoeni. Mae llawer o opsiynau ar gael a llwybrau gwahanol i ti eu dilyn."

Disgrifiad,

Canlyniadau Safon Uwch yn 'galonogol', medd Jeremy Miles

Dywedodd Prif Weithredwr CBAC Ian Morgan bod y canlyniadau'n amlygu "dycnwch ac ymdrech" dysgwyr.

Wrth longyfarch dysgwyr eleni, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles bod y nifer uchaf erioed o Gymru yn mynd i'r brifysgol.

"Os nad ydych chi wedi cael y canlyniadau yr oeddech chi wedi gobeithio amdanynt, neu os nad ydych chi'n siŵr am eich camau nesaf, fy neges allweddol yw - peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy galed ar eich hunain," meddai Mr Miles.

Ychwanegodd bod y canlyniadau Safon Uwch eleni yn "galonogol" a'r system yn deg.

Er gwaethaf y ffaith i lai o bobl dderbyn graddau uwch, dywedodd Mr Miles mai "dyna oedd y disgwyl".

'Blwyddyn anodd iawn'

Angharad Mansfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna falchder wedi heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf, medd Angharad Mansfield o Goleg Sir Gâr

Dywedydd Angharad Mansfield, aelod o dîm arwain y chweched dosbarth yng Ngholeg Sir Gâr, ei bod hi'n "falch" iawn o'r myfyrwyr.

"Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn iddyn nhw, i'r coleg ac i'r athrawon," meddai.

"O'n ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl. Ni'n hapus iawn."

Cafodd Jacob, 18, A* mewn Bioleg, ac A mewn Cemeg a Ffiseg. Mae'n gobeithio mynd i Coleg y Brenin yn Llundain i astudio Niwrowyddoniaeth.

"O fi'n catastrophic y bore ma, ond nawr fi'n iawn. Rwy'n hapus iawn. Does dim geiriau, dwi over the moon."

Jacob a Fran
Disgrifiad o’r llun,

Jacob a Fran - dau o'r myfyrwyr sydd â rheswm i ddathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau

Roedd Fran, 17, yn sefyll ei harholiadau AS. Fe gafodd hi radd A yn Y Gyfraith a Throseddeg ac A mewn Cymraeg Lefel A.

"Nesh i weithio'n galed i gael y canlyniadau hyn. Mae'n rili gret," meddai.

"Roedd hi'n flwyddyn galed iawn, iawn. Oedd fi ddim yn meddwl y bydden ni'n cael 3 A - mae'n iawn iawn."

Dwy A a dwy B cafodd Flynn, 18, a fydd yn mynd i Brifysgol Aberystwyth fis nesaf.

"Roedd e'n lot gwell na oeddwn i'n ddisgwyl," meddai.

Cain
Disgrifiad o’r llun,

Gobeithio mynd i Brifysgol Bangor i astudio hanes mae Cain Conway o Ysgol David Hughes, Ynys Môn

Mynd i astudio hanes ym Mhrifysgol Bangor yw gobaith Cain Conway o Ysgol David Hughes yn Ynys Môn.

Cafodd ddwy C, un B a phasio ei gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

"Mae wedi bod yn rhyfedd iawn, peidio cael y profiad o sefyll arholiadau, ond ry'n ni dros hynny nawr ac mae'n edrych yn bositif," dywedodd.

"Mae'n fwy na digon i gael lle yn y brifysgol, dw i eisiau mynd i Fangor i wneud Hanes."

Pontio

Pwrpas system eleni yw pontio graddau uwch 2021 gyda graddau mwy "normal" 2019.

Mae'r rheolydd hefyd wedi dweud y bydd arholiadau yn cael eu graddio'n fwy hael eleni i ystyried yr heriau wynebodd disgyblion.

Yn 2021, roedd nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i gael A neu A* yn 48.3%. Yn 2019, pan oedd arholiadau y tro diwethaf, y ffigwr oedd 27%.

Philip Blaker
Disgrifiad o’r llun,

Nod yr arholiadau eleni oedd bod "safon genedlaethol yn cael ei osod a phawb yn cael eu trin yn deg" yn ôl prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker

Yn ôl Philip Blaker, arholiadau oedd y drefn fwyaf teg eleni.

Dywedodd: "Fe wnaeth dysgwyr sefyll yr un arholiadau o dan yr un amodau er mwyn iddo gael ei farcio'n gadarn ac yn annibynnol fel bod safon genedlaethol yn cael ei osod a bod pawb yn cael eu trin yn deg wrth i'r graddau gael eu derbyn."

Roedd cwynion gan rai athrawon a disgyblion bod rhai o'r papurau arholiad yn rhy anodd.

Ond mynnodd y prif fwrdd arholi CBAC ei fod yn "hyderus a chyfforddus" gyda'r cymwysterau.

Cystadleuaeth i brifysgolion

Mae UCAS, y corff sy'n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion, yn disgwyl i fwy o fyfyrwyr gael cynnig lle ar gwrs sy'n ddewis cyntaf.

Ond fe rybuddion nhw hefyd y bydd y broses o fynd i brifysgol yn fwy cystadleuol eleni, yn enwedig i gyrsiau fel meddygaeth a deintyddiaeth.

"Ry'n ni'n meddwl y bydd hynny'n rhoi mwy o bwysau ar y system o ran mynd i'w dewis cyntaf fel prifysgol," ychwanegodd Mr Blaker.

Carys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Carys Roberts yw pennaeth recriwtio Prifysgol Bangor ar gyfer y DU a dywedodd bod eleni yn "brysur iawn"

I'r disgyblion sydd heb gael y graddau oedd eu hangen, neu efallai wedi penderfynu funud olaf eu bod eisiau mynd i'r brifysgol, mae'r system glirio yn cynnig nifer o opsiynau.

Yn ôl Carys Roberts, pennaeth recriwtio Prifysgol Bangor ar gyfer y DU, mae eleni wedi bod yn "brysur iawn" i'r tîm sydd ar y ffonau yn siarad â disgyblion a darpar fyfyrwyr.

"'Swn i'n dweud bod ni wedi derbyn lot mwy o alwadau na 'da ni wedi'i wneud ers sawl blwyddyn," meddai.

"Mae 'na fwy o fyfyrwyr 18 oed yn y lle cynta' a mae 'na fwy o brifysgolion, ella rhai o'r prifysgolion mawr yn Lloegr, yn edrych i leihau nifer y myfyrwyr maen nhw'n gymryd i mewn.

"Mae hynny wedyn yn dylanwadu ar faint o fyfyrwyr sydd yn y system glirio - felly mae'n brysur ac mae 'na gystadleuaeth."

Cyngor i bwyllo

Gyda'r llinellau ffôn ar agor tan ddiwedd Awst, mae'r staff yn awyddus i roi cyngor i unrhyw ddarpar fyfyrwyr.

Y prif gyngor i rai sy'n dal i chwilio am le, yn ôl Ms Roberts, yw i bwyllo.

Roedd nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn 36,310 ar gyfer haf 2022, 0.5% yn uwch na haf 2021.

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol ble mae nifer y cofrestriadau wedi cynyddu yn dilyn sawl blwyddyn lle gwelwyd y niferoedd yn gostwng.

Pynciau cysylltiedig