Cwpan Undydd: Sir Gaerhirfryn yn rhoi cweir i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Keaton JenningsFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Keaton Jennings oedd prif sgoriwr Sir Gaerhirfryn

Cafodd Morgannwg gweir yn y Cwpan Undydd wrth i Sir Gaerhirfyn eu trechu o naw wiced.

Y tîm cartref fatiodd gyntaf yng Nghastell-nedd, ond fe gawson nhw'r dechrau gwaethaf posib wrth i'r agorwyr Tom Bevan a Sam Northeast fod allan am gyfanswm o ddau rediad rhyngddyn nhw.

Daeth sgoriau uchaf Morgannwg o fatiadau Colin Ingram (54) ac Eddie Byrom (40), ond roedd y tîm allan am 177 wedi ychydig dros 45 pelawd.

Ni wastraffodd Sir Gaerhirfryn unrhyw amser wrth geisio dal sgôr Morgannwg, gyda Luke Wells yn cyrraedd 50 cyn cael ei fowlio gan Kiran Carlson.

Dyna'r unig wiced a gymrodd Morgannwg, wrth i Keaton Jennings (77) a Josh Bohannon (48) gyrraedd y nod mewn dim ond 36 pelawd i orffen ar 180-1.

Pynciau cysylltiedig