£4.1m o elw i gwmni llaeth cydweithredol Hufenfa De Arfon

  • Cyhoeddwyd
Hufenfa De ArfonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni'n gobeithio cynyddu nifer y staff ar ei safle yn Chwilog i 160 erbyn 2024

Mae cwmni llaeth cydweithredol Hufenfa De Arfon yn dweud ei fod wedi gwneud elw o £4.1m ym mlwyddyn ariannol 2021/22.

Fe wnaeth lefelau gwerthiant y cwmni gynyddu 17% i £71.5m yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth - y ffigwr uchaf ers ei sefydlu yn 1938.

Dywedodd Hufenfa De Arfon, sydd wedi'i berchnogi gan 145 o ffermwyr ar draws y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin, ei fod wedi gallu talu difidend o £1m i'r aelodau o ganlyniad i'r llwyddiant.

Maen nhw hefyd wedi buddsoddi £3.8m yn ôl i'r busnes i ariannu cynllun pum mlynedd gwerth £20m i gynyddu lefelau cynhyrchu yn ei safle yn Chwilog ger Pwllheli.

Mae'r cwmni eisoes yn cyflogi tua 130 o staff ar y safle hwnnw, ac mae'n rhagweld y bydd hynny'n cynyddu i 160 erbyn 2024.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alan Wyn Jones fod y "pandemig wedi arwain at fwy o werthiant yn ein marchnad fwyaf - y DU"

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Alan Wyn Jones y daw'r llwyddiant er gwaethaf "cyfnod heriol i bawb", gyda thrafferthion gyda'r gadwyn gyflenwi o ganlyniad i'r pandemig a'r rhyfel yn Wcráin.

"Er hynny mae'r busnes wedi perfformio'n gryf," meddai, gan ychwanegu fod y "pandemig wedi arwain at fwy o werthiant yn ein marchnad fwyaf - y DU".

Dywedodd hefyd fod y cwmni wedi "darparu un o'r prisiau llefrith mwyaf cystadleuol yng Nghymru i'n haelodau", sef cyfartaledd blynyddol o 31.53c y litr.

Pynciau cysylltiedig