Morgannwg yn rhoi cweir i Hampshire yn y Cwpan Undydd

  • Cyhoeddwyd
Tom BevanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Tom Bevan heb os oedd y seren i Forgannwg gyda chyfanswm o 134

Llwyddodd Morgannwg i drechu Hampshire yn gyfforddus o saith wiced yn y Cwpan Undydd ddydd Gwener.

Fe wnaeth Hampshire gyrraedd cyfanswm o 228-9 yn eu 50 pelawd nhw, gyda Nick Gubbins (93) ac Ian Holland (63 heb fod allan) yn serennu gyda'r bat.

Ond fe ddechreuodd Morgannwg ar garlam yn eu hymateb nhw, gan lwyddo i gyrraedd eu targed o fewn 32 pelawd yn unig, a cholli tair wiced.

Tom Bevan heb os oedd y seren i'r Cymry gyda chyfanswm o 134, tra bo Colin Ingram hefyd wedi llwyddo i gyrraedd 78 heb fod allan.

Pynciau cysylltiedig