Tân Pentyrch: Cadarnhad taw menyw 65 oed fu farw

  • Cyhoeddwyd
Cefn Bychan, PentyrchFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i stryd Cefn Bychan tua 12:00 ddydd Gwener

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai menyw 65 oed fu farw yn dilyn tân mewn byngalo ym mhentref Pentyrch ger Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw mewn ymateb i'r tân yn stryd Cefn Bychan tua hanner dydd ddydd Gwener

Fe gafodd tair injan dân eu hanfon ond bu farw'r ddynes yn y byngalo, er i'r criwiau geisio geisio'u hachub.

Mae'r awdurdodau wedi cysylltu gyda'i pherthnasau.

"Hoffwn ni gydnabod dewrder aelodau'r cyhoedd a wnaeth eu gorau i gael mynediad i'r byngalo a diffodd y tân tra bo'r gwasanaethau brys ar eu ffordd," dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu'r De.

Mae'r llu'n ymchwilio i achos y tân ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Pynciau cysylltiedig