Trafferthion i deithwyr trên yn sgil salwch staff

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai teithwyr sy'n teithio ar drenau rhwng Caerdydd a Chaergybi wynebu trafferthion ddydd Llun oherwydd salwch staff.

Yn sgil prinder staff dyw bocs signalau Henffordd ddim yn weithredol, medd cwmni Network Rail ac felly mae nifer o wasanaethau sy'n teithio drwy'r orsaf wedi'u canslo.

Ymhlith y gwasanaethau sy'n cael eu heffeithio mae'r gwasanaeth trên rhwng Manceinion ac Aberdaugleddau a rhwng Caergybi a Chaerdydd.

Gallai teithwyr wynebu trafferthion tan oddeutu 18:00 nos Lun.

Mae gwasanaeth bws rhwng Amwythig a Chasnewydd.

Pynciau cysylltiedig