Oes o garchar am dreisio mam a merch yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am dreisio mam a merch mewn ymosodiad "dychrynllyd" yn eu cartref yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Joshua Carney, 28, ymosod ar y fenyw a'i merch yn ei harddegau wedi iddo orfodi ei hun i mewn i'w cartref fis Mawrth.
Yn yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "sadistaidd", fe wnaeth Carney orfodi'r ddwy i wylio ei gilydd yn cael eu treisio.
Yn ystod yr ymosodiad fe lwyddodd y ferch i ffonio 999, ac fe gafodd Carney ei arestio wrth iddo adael y tŷ.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y ferch bellach yn cysgu gyda morthwyl, a bod ei mam yn teimlo "euogrwydd eithafol" am na lwyddodd i amddiffyn ei merch.
Isafswm o ddegawd dan glo
Ar ôl cael ei arestio dywedodd Carney ei fod wedi bod yn cymryd cyffur Spice, ac nad oedd ganddo unrhyw gof o'r hyn ddigwyddodd.
Ond yn ddiweddarach fe blediodd yn euog i 13 o droseddau, gan gynnwys chwe achos o dreisio.
Bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 10 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.
Cafodd Carney ei ddisgrifio fel lleidr cyson, oedd ond wedi cael ei ryddhau o'r carchar bum diwrnod cyn yr ymosodiad.
Yn ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod y digwyddiad "dychrynllyd" wedi bod yn "hunllefus" i'r ddwy, a'i fod wedi newid eu bywydau am byth.
'Unigolyn peryglus iawn'
Yn siarad yn y llys dywedodd y fam: "Tan fore'r ymosodiad ro'n i'n fenyw gref, annibynnol, ond mae hynny wedi troi ben i waered bellach."
Dywedodd ei bod "heb gael noson lawn o gwsg ers yr ymosodiad" a'i bod yn cael hunllefau cyson.
"Dydw i ddim yn credu y byddwn byth yn teimlo'n gyfforddus yn gadael fy merch adref ar ei phen ei hun eto."
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Ian Booker o Heddlu De Cymru fod "ymosodiadau ar ddieithriaid fel yr un yma yn anarferol iawn", ond fod Carney yn "unigolyn peryglus iawn".