Mick Bates: Teyrngedau i'r cyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydol

  • Cyhoeddwyd
Mick BatesFfynhonnell y llun, Democratiaid Rhyddfrydol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mick Bates yn Aelod Cynulliad dros Faldwyn rhwng 1999 a 2011

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cadarnhau marwolaeth un o'u cyn-Aelodau ym Mae Caerdydd yn 74 oed.

Yn gyn-athro a ffermwr, roedd Mick Bates yn gynghorydd sir ym Mhowys cyn dod yn Aelod Cynulliad dros Faldwyn rhwng 1999 a 2011.

Cadarnhaodd y blaid ei fod wedi bod yn wael gyda chanser, gan ei ddisgrifio fel "ymgyrchydd di-flino dros gymunedau cefn gwlad".

Ymddiswyddodd fel Democrat Rhyddfrydol yn 2010 wedi i lys ynadon ei gael yn euog o ymosod ar barafeddygon a ddaeth i'w gymorth ar ôl iddo syrthio'n feddw ​​i lawr grisiau mewn bwyty yng Nghaerdydd.

Treuliodd weddill ei dymor seneddol fel aelod annibynnol.

'Colled fawr i ni gyd ym Mhowys'

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Roedd Mick yn un o'r bobl mwyaf croesawgar a charedig roeddwn i'n ei adnabod.

"Pan gyrhaeddais Y Trallwng am y tro cyntaf, bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd mor hael ei amser gyda mi.

"Roedd ei wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar ei annwyl Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Ni fydd Mick Bates arall, byth.

"Mae ein meddyliau gyda'i wraig Buddug, ei blant Ruth a Daniel, ei bump o wyrion bendigedig ochr yn ochr â gweddill ei deulu a'i ffrindiau."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

"Ni fydd Mick Bates arall, byth," meddai Jane Dodds

Ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun, disgrifiodd Jane Dodds achlysur tebyg i "eisteddfod bychan" ar fferm Mr Bates yn Llanfair Caereinion a'r caeau'n "llawn o bobl yr ardal" ar achlysur ein ben-blwydd yn 70 oed.

Mae marwolaeth gŵr oedd "yn gwneud yn siŵr bod pobl yn gw'bod yn union be oedd Maldwyn isio" yn "golled fawr i ni gyd ym Mhowys".

Ychwanegodd ei fod yn trafod newid hinsawdd a'r angen i roi ynni gwyrdd ar yr agenda yn gynnar iawn, a'i fod wedi brwydro dros wella trafnidiaeth gyhoeddus a chadw ysgolion gwledig ar agor.

Dywedodd un o gyn-Aelodau Cynulliad y blaid, William Powell, bod Mr Bates yn "hael, caredig ac angerddol, yn ddyn oedd yn glynu wrth ei egwyddorion ac yn gweithio'n wirioneddol galed" i gynrychioli ei etholaeth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Y Llywydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Y Llywydd

Mae Llywydd Senedd Cymru, fel y mae'r Cynulliad yn cael ei nabod erbyn hyn, hefyd wedi ymateb i'r farwolaeth, gan ddisgrifio Mr Bates fel "un o gymeriadau mawr y tri Chynulliad cyntaf".

Ychwanegodd Elin Jones ei fod yn "bencampwr clodwiw" dros faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a chefn gwlad ac "yn ladmerydd angerddol dros ei annwyl Faldwyn".