Ymgynghori ar gau gwefan newyddion The National wedi 18 mis

  • Cyhoeddwyd
The NationalFfynhonnell y llun, Newsquest

Mae'n debygol y bydd gwefan newyddion Gymreig The National yn cau, 18 mis ar ôl ei lansio.

Penderfynodd rheolwyr i ddod â fersiwn print gwreiddiol y papur i ben ar ôl wyth mis gyda'r nod o ganolbwyntio ar y fersiwn ar-lein.

Newsquest, un o gwmnïau newyddion mwyaf Prydain, yw perchennog y wefan.

Dywedodd un o newyddiadurwyr The National bod y newyddion am yr ymgynghoriad yn "ofnadwy", gan ddadlau bod "Cymru wirioneddol angen ac yn haeddu ecosystem newyddion cryfach".

Mae Rebecca Wilks yn gweithio gyda gwasanaeth The National ers mis Medi diwethaf.

"Mae angen gofod ar gyfer gohebu trwyadl, ar gyfer ymchwiliadau sy'n benodol i Gymru a newyddiadurwyr â'r amser a'r adnoddau i wneud y gwaith hyn gyda gofal," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Wilks
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Wilks yn gweithio i wasanaeth The National yng Nghymru ers mis Medi y llynedd

Ychwanegodd: "Wnes i fwynhau fy nghyfnod gyda The National. Roedd yn galed weithiau, roedd yr oriau'n hir, ond rwy'n caru gohebu.

"Rwy'n falch o'r gwaith wnaethon ni. Rwy'n gobeithio y gallai gario ymlaen 'da hyn, beth bynnag sy'n digwydd."

Ychwanegodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood - un o golofnwyr The National - ei bod hithau'n siomedig, gan gydymdeimlo gyda'r "staff ardderchog".

"Mae cymaint o bobl yng Nghymru yn torri bol eisiau gweld cyfryngau Cymreig annibynnol," meddai ar Twitter.

Cyngor Llyfrau: 'Parhau i gefnogi Corgi'

Mewn datganiad fe wnaeth Newsquest gadarnhau eu bod yn "ymgynghori ar gynnig i gau The National Cymru".

"Er gwaethaf ymdrechion gorau ac ymroddiad y tîm, mae'r gystadleuaeth o gyfeiriad gwasanaethau newyddion am ddim, gan gynnwys BBC Cymru ar-lein, yn golygu na fu'n bosib i The National Cymru gynyddu nifer y tanysgrifwyr sy'n talu lefel gynaliadwy.

"Mae nifer fach o swyddi mewn perygl o ganlyniad i'r cynnig yma a rydym yn ymgynghori gyda'r staff sy'n cael eu heffeithio er mwyn ceisio lleihau diswyddiadau posib."

Cafodd The National ei lansio ar 1 Mawrth 2021 - Dydd Gŵyl Dewi - a sylfaenydd y fenter oedd cyn-bennaeth digidol S4C, Huw Marshall.

Dywedodd ar y pryd y byddai gan y gwasanaeth ryddid yn olygyddol, ac mai'r bwriad ydy "trafod y pynciau... a chyflwyno'r ffeithiau i bobl yng Nghymru".

Yn gynharach eleni cafodd gwasanaeth newyddion Cymraeg ei sefydlu gan Mr Marshall dan faner Newsquest, sef Corgi Cymru - mae hwnnw'n un o ddau wasanaeth sydd yn derbyn cyllid blynyddol o £100,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Wrth ymateb i'r newyddion diweddaraf dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau: "Rydym yn ymwybodol bod Newsquest yn cynnal cyfnod o ymgynghori ynglŷn â The National ar hyn o bryd.

"Nid yw'n effeithio ar y grant a ddyfarnwyd i Newsquest i ddarparu gwasanaeth newyddion Corgi Cymru, gan fod yr arian wedi'i neilltuo ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.

"Rydym yn aros i weld beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad ac rydym yn parhau i gefnogi Corgi Cymru yn ôl y cytundeb sydd rhyngom."

Ffynhonnell y llun, Elliot Raman Jones
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Elliot Raman Jones wythnos ar brofiad gwaith gyda The National

Fe dreuliodd Elliot Raman Jones, gyfnod o brofiad gwaith gyda The National pan roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Fe wnes i wirioneddol fwynhau fy nghyfnod yn gweithio yn The National," meddai.

"Mae'n anffodus bod tîm gwych o newyddiadurwyr o'r radd flaenaf wedi cael eu siomi yn sgil dod â'r gwasanaeth i ben."

'Economeg syml'

Wrth drydar nos Fercher yn dilyn y newyddion am gau'r wefan, dywedodd Mr Marshall ei fod yn "siom gwirioneddol".

"Mae'r ymateb i'r newyddion, ar y cyfan, yn dangos bod y mwyafrif wir wedi gwerthfawrogi'r gwaith roedden ni'n ei wneud a'n cyfraniad i gymdeithas sifil yng Nghymru," meddai.

"Mae hyn yn dod lawr i economeg syml, mae tanysgrifwyr wedi gostwng wrth i effaith yr argyfwng costau byw gynyddu.

"Ochr yn ochr â hynny mae refeniw hysbysebion wedi disgyn wrth i fusnesau dynhau eu gwregys. Petai'r bobl sy'n gweld colli'r gwasanaeth yn tanysgrifio fyddai hyn ddim yn digwydd. Mae'n rhaid gwerthfawrogi gwasanaethau, neu fe fyddan nhw'n diflannu."

Pynciau cysylltiedig