Gwasanaeth digidol am 'gyrraedd cynulleidfaoedd newydd'

  • Cyhoeddwyd
logo CGFfynhonnell y llun, Corgi Cymru

Mae'r rhai tu cefn i wasanaeth digidol Cymraeg newydd yn dweud mai un o'u prif amcanion fydd denu Cymry Cymraeg nad sydd yn troi at wasanaethau yn yr iaith ar hyn o bryd.

Bydd gwasanaeth newyddion Corgi Cymru yn cael cyllid blynyddol o £100,000 oddi wrth Gyngor Llyfrau Cymru - gyda'r un swm yn cael ei roi i wasanaeth golwg360, dolen allanol.

Mae'n golygu fod nawdd Golwg yn cael ei haneru, gyda'r cwmni yn arfer derbyn £200,000 y flwyddyn.

Wrth siarad â Cymru Fyw, roedd prif weithredwr dros dro Golwg yn cydnabod ei bod yn anochel y byddai hynny'n cael effaith ac yn golygu llai o adnoddau.

Cwmni Newsquest sydd tu cefn i'r fenter Corgi Cymru, sy'n chwaer gyhoeddiad i 'The National Wales' gafodd ei lansio flwyddyn yn ôl.

Dywedodd Huw Marshall, cyhoeddwr Corgi Cymru, eu bod nhw'n anelu at gynulleidfa newydd.

Mwy o gynnwys fideo

"Mae tirwedd cyfryngau Cymraeg - golwg360, BBC Cymru Fyw, ac S4C Newyddion - yn bodoli yn barod, meddai Mr Marshall ar Dros Frecwast.

"Ond be ydan ni'n ceisio ei wneud ydy cyrraedd cynulleidfaoedd newydd - Cymry sy' efallai yn gallu siarad Cymraeg a ddim yn defnyddio Cymraeg o ddydd i ddydd... neu heb ei ddefnyddio fo ers gadael yr ysgol.

"Y prif wahaniaeth dwi'n gobeithio fyddwn ni'n gwneud ydy y bydd lot o'n cynnwys ni yn cael ei greu ar ffurf fideo, TikTok, Instagram ac ar lwyfannau mwy traddodiadol fel Twitter a Facebook, ac wrth gwrs bydd gwefan yn eistedd y tu ôl i'r cyfan wedyn."

Ychwanegodd Mr Marshall y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar benodi staff newydd.

Byddai'r cyhoeddiad hefyd yn gallu dibynnu ar gefnogaeth rhwydwaith Newsquest, meddai.

"Yn amlwg, mae gennym ni ôl-troed sylweddol yng Nghymru. Mae gennym ni 15 o deitlau lleol a'r National sy'n deitl cenedlaethol.

"Mae gennym ni dros 50 o newyddiadurwyr ar draws Cymru a nifer o rheiny yn siaradwyr Cymraeg."

Fel rhan o gytundebau newydd y Cyngor Llyfrau, bydd cwmni Golwg hefyd yn cael £100,000 y flwyddyn i ddatblygu eu gwasanaethau.

Ond mae hynny £100,000 yn llai na'r hyn yr oedd y cwmni yn arfer ei dderbyn.

Dywedodd Owain Schiavone, prif weithredwr dros dro Golwg Cyf, ei bod yn anochel y byddai hynny'n cael effaith ac yn golygu llai o adnoddau.

"Mae'n amlwg yn effeithio tipyn ar gyllideb Golwg ac addasu o ran cynlluniau at y dyfodol," meddai.

"Byddai'n effeithio ar gynlluniau busnes unrhyw gwmni. Bydd yn rhaid torri'r got yn ôl y brethyn yn sgil hyn.

"Ond ar nodyn positif bydd yn gyfle i ni ganolbwyntio ar yr hyn 'de ni yn ei wneud orau, ar ein straeon."

'Byd newyddion yn esblygu'

Ychwanegodd Mr Schiavone: "Mae gennym gynlluniau cyffrous ynglŷn â sut i symud y gwasanaeth i gyfeiriad ychydig yn wahanol, gan ymateb i'r hyn rydym wedi'i ddysgu am y gynulleidfa ers lansio golwg360 yn 2009, yn ogystal â'r modd y mae'r byd newyddion wedi esblygu ers hynny.

"Rydym yn hyderus yng ngallu ein tîm profiadol i barhau i ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Dywedodd Mr Schiavone, sydd wedi ei benodi dros dro ar ôl ymadawiad Siân Powell, ei fod yn disgwyl parhau yn ei swydd tan ddiwedd y flwyddyn.

Byddai hyn, meddai, yn rhoi cyfle am sefydlogrwydd yn sgil unrhyw newidiadau cyn dechrau ar broses y cyfarwyddwyr o chwilio am brif weithredwr parhaol.

Pynciau cysylltiedig