Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 Preston
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Caerdydd methu a sgorio am y bedwaredd gêm yn olynol
Di-sgôr oedd hi yn Y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn wrth i'r Adarn Gleision herio Preston.
Er i Gaerdydd ddominyddu meddiant yn ystod yr hanner cyntaf, roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl.
Parhau wnaeth y patrwm drwy gydol yr ail hanner, wrth i'r naill dîm na'r llall lwyddo i rwydo gol.
Dyma oedd y bedwaredd gêm yn olynol i Gaerdydd fethu a sgorio - er iddyn nhw reoli'r cyfleoedd ar y cae.