Apêl am dystion wedi ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
BlackweirFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger Pont y Gored Ddu ym Mhontcanna fore Mercher

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion wedi ymosodiad rhyw ar Lwybr Taf ym Mhontcanna, Caerdydd fore Mercher.

Dywed plismyn bod dyn wedi ymosod ar ddynes, 32, oddeutu 06:40 ger Pont y Gored Ddu (Blackweir).

Nodir bod y dyn yn ei 40au a'i fod naill ai'n foel neu wedi eillio ei ben, a'i fod wedi mynd i gyfeiriad caeau Pontcanna tuag at Ffordd y Gadeirlan wedi'r ymosodiad.

Mae nifer o blismyn yn yr ardal ar hyn o bryd wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.

Hefyd mae swyddogion yn darparu cefnogaeth i'r cyhoedd.

Mae'r heddlu yn annog unrhyw un a welodd rywbeth amheus yn yr ardal tua'r amser yma i'w ffonio ar 101.

Pynciau cysylltiedig