Heddlu'n ymddiheuro 70 mlynedd ar ôl dienyddio dyn dieuog

  • Cyhoeddwyd
Mahmood Mattan
Disgrifiad o’r llun,

Mahmood Mattan oedd y carcharor olaf i gael ei ddienyddio yng Ngharchar Caerdydd - union 70 mlynedd yn ôl

Mae teulu dyn a gafodd euogfarn ar gam am lofruddiaeth wedi derbyn ymddiheuriad gan yr heddlu, 70 mlynedd wedi iddo gael ei ddienyddio.

Cafodd Mahmood Mattan, cyn-longwr oedd yn hanu o Somalia, ei grogi yn 1952 wedi i lys ei gael yn euog o ladd perchennog siop, Lily Volpert yn ardal Tre-biwt, Caerdydd.

Dyma oedd yr euogfarn gyntaf i'r Llys Apêl ei dileu, yn 1998, wedi i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol gyfeirio'r achos i'r llys.

Mae Heddlu De Cymru wedi ymddiheuro, gan gydnabod fod yr erlyniad yn "ddiffygiol".

'Dioddefaint erchyll'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan bod yr achos yn adlewyrchu cyfnod pan "fyddai hiliaeth, rhagfarn ac anffafriaeth wedi bod yn gyffredin trwy'r gymdeithas, gan gynnwys y system gyfiawnder troseddol".

"Does dim amheuaeth bod Mahmood Mattan wedi dioddef camwedd cyfiawnder o ganlyniad erlyniad diffygiol, yr oedd plismona yn amlwg yn rhan ohono," meddai.

"Mae'n briodol i ymddiheuro ar ran yr heddlu am yr hyn a aeth yn ddifrifol o chwith yn yr achos yma 70 mlynedd yn ôl ac am ddioddefaint erchyll teulu Mr Mattan a phawb a gafodd eu heffeithio gan y drasiedi yma am flynyddoedd lawer."

Disgrifiad o’r llun,

Laura Mattan (canol) yn gadael y Llys Apêl gyda pherthnasau a chefnogwyr yn 1998 wedi i euogfarn Mahmood Mattan gael ei dileu

Ymgyrchodd gwraig Mr Mattan, Laura am 46 o flynyddoedd wedi'r dienyddiad i adfer enw da ei gŵr.

Fe dderbyniodd y teulu Mattan iawndal gan y Swyddfa Gartref yn 2001 ond ni fu ymddiheuriad gan y llu heddlu.

Mae Mrs Mattan a'u tri mab wedi marw erbyn hyn, ond mae chwech o wyrion yn dal yn fyw.

Ffynhonnell y llun, Ruth
Disgrifiad o’r llun,

Lily Volpert (yma, gyda'i thad Mark) fu'n rhedeg y siop ddillad deuluol wedi ei farwolaeth yntau

Ditectifs yr hen Heddlu Dinas Caerdydd ymchwiliodd i lofruddiaeth Ms Volpert, 41, yn ei siop yn ardal dociau Caerdydd ar 6 Mawrth 1952.

Torrodd y llofrudd ei gwddf tra bo'i mam, chwaer a nith yn yr ystafell drws nesaf. Doedd yna ddim tystiolaeth fforensig.

O fewn oriau, cafodd Mr Mattan ei arestio, er i sawl person dystio lle roedd ef adeg y llofruddiaeth.

Cafodd ei gyhuddo a'i gael yn euog, wedi achos a barodd am dridiau, gan reithgor ag aelodau gwyn yn unig.

Ffynhonnell y llun, Archifau Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop y teulu Volpert yng nghanol Stryd Biwt, Caerdydd

Fe wnaeth hyd yn oed ei fargyfreithiwr ei hun gyfeirio ato, ag yntau ond yn siarad ychydig iawn o Saesneg, fel person "anwar" ym Mrawdlys Morgannwg, yn Abertawe.

Lai na chwe mis wedi'r llofruddiaeth, cafodd Mr Mattan, 28, ei ddienyddio gan y crogwr enwog Albert Pierrepoint yng Ngharchar Caerdydd ar 3 Medi 1952.

Ni wyddai ei weddw ei fod wedi cael ei grogi nes iddi fynd i ymweld ag ef yn y carchar - oedd yn agos i'w cartref - a gweld nodyn marwolaeth ar ddrws.

'Arswyd lawr cefn rhywun'

"Oedd e'n ddiwrnod rhyfedd iawn," meddai Emrys Roberts o Gaerdydd, wrth rannu ei atgofion o ddiwrnod y dienyddiad gyda rhaglen Dros Frecwast.

Yn 20 oed ar y pryd, roedd wedi ei ddedfrydu i dri mis dan glo am wrthod ymuno â'r fyddin Brydeinig ar sail cenedlaetholdeb.

Ni gwrddodd â Mahmood Mattan yn bersonol, ond roedd yn bosib i'w weld yn ei gell.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweddillion Mahmood Mattan eu symud o garchar Caerdydd i fynwent wedi i'r Llys Apêl ddileu ei euogfarn

"Fel arfer yn y carchar roedd lot o sŵn a symud, ond y bore hynny roedd popeth yn ddistaw ddychrynllyd," meddai.

Ond y dyddiau cynt "oedd y gwaetha'", meddai, gan fod modd gweld carcharorion ifanc "rhyw 17, 18 oed yn cloddio twll yn yr ardd [ac roedd] pawb yn sylweddoli mai dyna lle oeddan nhw'n mynd i daflu ei gorff ar ôl ei grogi".

Roedd y carcharorion yma hefyd o dras Somali ac "roedd 'na deimlad erchyll am hynny", meddai Mr Roberts.

Profiad annymunol hefyd oedd gweld Mahmood Mattan ei hun yn gwylio'r gwaith tyllu o'i gell yntau, oedd â "ffenest enfawr".

"Oedd 'na ryw deimlad fel arswyd lawr cefn rhywun i weld hwnna," dywedodd.

Safonau ymchwilio heddiw'n 'hollol wahanol'

"Hyd heddiw, rydym yn dal yn gweithio'n galed i sicrhau bod hiliaeth a rhagfarn yn cael eu dileu o fewn cymdeithas a phlismona," meddai Jeremy Vaughan.

"Byddai ymchwiliadau heddlu'r cyfnod hwnnw'n hollol wahanol ac yn bell o safonau ymchwilio rhagorol heddiw.

"Hyd yn oed wrth ystyried achos o 70 mlynedd yn ôl, ni anghofiwn rheiny sydd wedi eu heffeithio gan gamweddau cyfiawnder na thanbrisio effaith hynny ar unigolion."

Ffynhonnell y llun, Kirsty Mattan
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant dau o feibion Mahmood Mattan - Omar a Mervyn - yn grediniol i'r ddau farw'n ifanc yn sgil stigma achos eu tad

Dywed aelodau'r teulu bod y frwydr i adfer enw da Mr Mattan wedi gadael ei hôl.

Dywedodd Mrs Mattan, a fu farw yn 2008, ar un achlysur: "Dyw fy meibion a finnau heb fyw. Rydym yn syml wedi bodoli."

Mewn sgwrs ar gyfer podlediad newydd ar BBC Sounds am yr achos, Mattan: Injustice of a Hanged Man, dywedodd Tanya Mattan - merch y mab canol, Omar - bod ei thad "yn grac iawn gyda'r byd" ac "wedi stryglo ei holl fywyd".

Cafwyd hyd i Omar Mattan yn farw, yn 53 oed, ar draeth anghysbell yn Yr Alban.

Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd Mahmood Mattan fyw i gwrdd â'i chwech o wyrion - gan gynnwys Kirsty Mattan, yma yn y canol gyda'i phlant

Ychwanegodd Kirsty Mattan - merch y mab ieuengaf, Mervyn Mattan: "Nid un bywyd yn unig wnaethon nhw ei gymryd. Aeth tri mab trwy'r stigma bod eu tad yn llofrudd."

"Roedd fy nhad yn ddyn rhyfeddol... ond roedd [y tri] mewn llefydd tywydd. Wnaethon nhw i gyd gamddefnyddio alcohol...

"Fe effeithiodd arnyn nhw yn feddyliol... wnaethon nhw i gyd farw'n ifanc."

'Y gosb eithaf yn syniad ofnadwy'

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael ddydd Sadwrn ei bod yn "hollol iawn ein bod ni sy'n rhan o'r systemau cyfiawnder troseddol a phlismona yn cydnabod y methiannau a wnaed a'r niwed yr achosodd hynny i'r teulu".

"Yn gyntaf roedd cydnabyddiaeth i'r teulu yn 2003 ar ôl penderfyniad y Llys Apêl [yn 1998], ac yn ail rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yr heddlu'n unig wnaeth fethiannau.

"Fe wnaeth y system cyfiawnder troseddol fethu â sicrhau fod dyn dieuog yn cael cyfiawnder."

Ychwanegodd Mr Michael fod yr achos yn "gwneud y pwynt pam fod y gosb eithaf yn syniad cwbl ofnadwy".

Ffynhonnell y llun, Archifau Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn llongwr Mahmood Mattan, a setlodd yng Nghaerdydd ar ôl symud i'r DU o'i famwlad

Roedd Mr Mattan ymhlith miloedd o longwyr a symudodd i'r DU o'r hen British Somaliland wedi'r Ail Ryfel Byd, gan setlo yn ardal dociau Caerdydd.

Priododd â Laura, oedd yn ferch leol, yn 1947 ond oherwydd rhagfarn at briodasau rhynghiliol bu'n rhaid i'r ddau fyw ar wahân ar yr un stryd.

Roedd cynrychiolwyr cyfreithiol y teulu wedi dadlau yn y Llys Apêl fod Mr Mattan wedi dioddef hiliaeth sefydliadol gan na glywodd ei achos dystiolaeth allweddol.

Dywedodd eu bargyfreithiwr Michael Mansfield wrth y podlediad bod yna elfen wrth-Somali i'r achos o bosib.

"Bydden nhw wedi cael eu hystyried yn dresmaswyr yn ne Cymru - 'yn cymryd ein swyddi, ein cartrefi, dylien nhw ddim fod yma...'

"Fe fyddai rheithgor... yn edrych arno gan feddwl... 'mae'n un o nifer ac os nad e wnaeth e, un o'i ffrindiau wnaeth' - dyna oedd yr ethos."