Glaw yn llifo drwy do bwyty wrth i stormydd daro

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd perchennog bwyty Pasture bod "dim dewis" ond cau

Bu'n rhaid i fwyty yng Nghaerdydd gau nos Lun wrth i law lifo drwy'r to yn ystod storm yn y brifddinas.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai stormydd o daranau daro dwyrain a de Cymru hyd at oriau mân y bore.

Mae'r rhybudd melyn yn weithredol ar gyfer 17 o siroedd rhwng 14:00 brynhawn Llun a 02:00 fore Mawrth.

Cafodd bwyty Pasture yng nghanol Caerdydd ei wagu'n syth, wrth i ddŵr lifo i mewn i'r gegin.

Dywedodd perchennog y bwyty, oedd â 90 o gwsmeriaid ar y pryd, Sam Elliott bod "dim dewis" ganddo ond cau.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i gynorthwyo, ond maent bellach wedi gadael.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd / Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn lle ar gyfer 17 o siroedd y de a'r dwyrain

Dywedodd y gwasanaeth bod llawer o alwadau oherwydd y storm, gyda thrafferthion yn Rhydaman, Gorseinon, Llandeilo a Phontarddulais.

Yn ogystal â mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion, fe allai llifogydd a thoriadau i gyflenwadau trydan ddigwydd mewn rhai ardaloedd.

Mae'n bosib y bydd oedi ar y rheilffyrdd ac amgylchiadau gyrru heriol ar y ffyrdd oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai mannau weld hyd at 20-30mm o law o fewn cyfnod o awr ac 50-80mm o fewn tair awr.

Pynciau cysylltiedig