Dyn yn Sir Gâr wedi cael chwech o blant gyda'i ferch

  • Cyhoeddwyd
siglenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tri aelod o'r teulu wedi cael eu cam-drin gan y dyn

Mae adroddiad diogelu plant wedi datgelu bod dyn, 62, oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin wedi cael chwech o blant gyda'i ferch ei hun yn dilyn perthynas losgachol o fewn y teulu.

Daeth y gamdriniaeth i'r amlwg yn 2018 pan gwynodd merch arall i'r dyn ei bod hi wedi cael ei cham-drin.

Fe gwynodd tri aelod o'r teulu wrth Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan y dyn - sy'n cael ei adnabod fel Oedolyn Y - ers eu bod nhw yn eu harddegau.

Cafodd yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig ei baratoi ar ran Cysur, Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r achos wedi ei ddisgrifio fel un "cymhleth a thrasig".

Mae'r bwrdd yn dweud y bydd pob un o'r argymhellion yn yr adroddiad annibynnol yn cael eu cyflwyno.

Symud i Gymru yn 2015

Ym mis Hydref 2019, cafodd Oedolyn Y ei garcharu am 40 mlynedd am dreisio ei ddwy ferch a'i wyres dros gyfnod estynedig.

Mae'r adolygiad yn olrhain sut y gwnaeth un o'i ferched, Oedolyn A, symud i fyw gyda'i thad yn Lloegr pan oedd hi'n 12 oed.

Fe ddechreuodd ei cham-drin yn fuan wedyn, ac fe wnaeth hi feichiogi pan oedd hi'n 13 oed.

Roedd hi'n meddwl ei bod hi mewn "perthynas gariadus a phositif" gydag e, a doedd hi ddim yn barod ar y pryd i ddatgelu pwy oedd tad ei phlant.

Fe symudodd y teulu i Gymru ym mis Awst 2015.

Dyfed-Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwynodd tri aelod o'r teulu wrth Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan y dyn

Fe ddaeth y teulu i gysylltiad y Gwasanaethau Plant ym mis Rhagfyr 2015, pan wnaeth wyres Oedolyn Y fygwth "niweidio ei hun gyda chyllell" yn y cartref ac roedd yna "anawsterau emosiynol yn y cartref".

Fe alwyd yr heddlu ac fe gafodd ei chyfeirio at Wasanaethau Plant.

Ym mis Ionawr 2017 fe gysylltodd rhywun yn ddienw gyda'r NSPCC a honni bod Oedolyn A mewn "perthynas losgachol" gyda'i thad - Oedolyn Y - ac roedd ei phlant wedi eu geni yn sgil y berthynas honno.

Cafodd ymchwiliad ar y cyd ei gynnal gan Wasanaethau Plant a'r Heddlu, ond doedd yna ddim camau pellach.

Roedd Oedolyn A yn gwadu'r honiadau ac roedd hi'n gwrthod caniatau i'r heddlu gynnal profion DNA ar ei phlant.

Merch yn eistedd yn y tywyllwchFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi i rywun gysylltu â'r NSPCC yn ddi-enw

Ym mis Mawrth 2018 fe wnaeth merch arall i Oedolyn Y - sef Oedolyn D - honiadau ei fod wedi ei cham-drin hi'n rhywiol.

Fe wnaeth Oedolyn A a'i merch gyfaddef wedyn bod Oedolyn Y wedi eu cam-drin nhw ers roedden nhw yn eu harddegau cynnar.

Ym mis Mehefin 2018 cafodd Oedolion A ac Y eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys. Fe aeth chwech o blant Oedolyn A i ofal maeth.

Cafodd profion DNA eu gwneud ar blant Oedolyn A oedd yn profi mai Oedolyn Y oedd y tad. Roedd chwech o'r plant, ar wahân i'r ieuengaf, yn blant iddo.

Mae'r adroddiad yn manylu ar sut y gwnaeth Oedolyn Y dwyllo ei ferch, Oedolyn A, i feddwl ei bod hi'n derbyn cyfarwyddiadau gan fediwm, ac roedd yn defnyddio'r dull yma i'w rheoli hi.

Nifer o effeithiau

Cafodd profion seicolegol eu gwneud ar bedwar o'r chwech o blant mewn ysbyty arbenigol.

Roedd y profion yn dangos bod y plant wedi dioddef nifer o effeithiau:

  • Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig;

  • Niwed emosiynol a chamdriniaeth;

  • Gwrthod siarad yn achlysurol;

  • Iselder a phryder am ymwahanu;

  • Mwy o risg y bydd rhywrai yn ceisio manteisio arnyn nhw yn rhywiol;

  • Diffyg ffiniau rhywiol priodol;

  • Diffyg eglurdeb am eu rhieni;

  • Symptomau oedd yn cydfynd gyda chamdriniaeth rywiol.

Mae awdur yr adroddiad wedi diolch i Oedolyn A "am rannu profiadau ac atgofion anodd".

Mae'r panel y gobeithio y bydd yna fudd wrth ddysgu gwersi o'r achos, ac y bydd yna elfen o "wella" i'r teulu.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Petasai mesurau mwy trwyadl i warchod plant yn eu lle yn Lloegr, pan feichiogodd Oedolyn A yn wreiddiol fel plentyn, ac yn ddiweddarach pan nad oedd yna gwestiynau am dad y plentyn, mae'n bosib y gellid fod wedi atal camdriniaeth bellach yn gynharach."

Gweithredu'r argymhellion

Mewn datganiad, dywedodd bwrdd Cysur: "Mae hwn yn achos ble mae cam-drin wedi cael effaith hirsefydlog ar yr holl ddioddefwyr, ac mae'n ymwneud â cham-drin dros genedlaethau yng Nghymru a Lloegr.

"Mae gweithwyr proffesiynol yn dal i weithio i gynorthwyo'r dioddefwyr a byddant yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod wrth iddynt geisio datblygu dyfodol cadarnhaol.

"Roedd yr achos yn un cymhleth dros ben a ddaeth i'r amlwg, a diogelwyd y plant, dim ond oherwydd bod grŵp bach o weithwyr proffesiynol o asiantaethau gwahanol sy'n gweithio ym maes amddiffyn plant wedi dangos cydweithrediad, dycnwch a gwydnwch, a gwelwyd y dystiolaeth o hyn yn yr Adolygiad Ymarfer Plant.

"Mae gwelliannau y gellir eu gwneud, ac mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) wedi ymrwymo i weithredu'r holl argymhellion o'r Adolygiad Ymarfer Plant hwn a ysgrifennwyd yn annibynnol.

"Byddwn yn gweithio'n agos â'n staff a holl asiantaethau'r bwrdd i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu."

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth a chefnogaeth yma.

Pynciau cysylltiedig