Glaw yn achub gêm gyfartal i Forgannwg yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
MorgannwgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Morgannwg yn yr ail safle yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd ar hyn o bryd

Bu'n rhaid i Forgannwg a Sir Gaerwrangon setlo am gêm gyfartal ym Mhencampwriaeth y Siroedd wedi pedwar diwrnod o chwarae yng Nghaerdydd.

Cafodd yr ymwelwyr ddechrau cryf i'r gêm wrth iddyn nhw ddod â'u batiad i ben ar sgôr o 454-9, gyda Gareth Roderick yn serennu gyda 172 o rediadau.

Fe wnaeth Morgannwg ymateb gyda 295, wrth i Shubman Gill sgorio 92 o rediadau ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Cymry.

Doedd hynny ddim yn ddigon i atal y tîm cartref rhag batio eto yn syth, ond megis dechrau oedd yr ail fatiad pan ddaeth y glaw i atal y chwarae ar ddechrau'r diwrnod olaf.

Gyda Morgannwg ar 5-0, doedd dim modd cael unrhyw chwarae o 11:30 ymlaen oherwydd y tywydd, cyn i'r capteiniaid ysgwyd llaw i ddod â'r gêm i ben ychydig cyn 14:00.

Pynciau cysylltiedig