Caerdydd: Trafferthion teithio i nifer ar ôl i drên daro person
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl wedi wynebu trafferthion teithio ar ôl i berson gael ei daro gan drên yng Nghaerdydd.
Cafodd nifer o drenau eu canslo wedi'r digwyddiad yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd ddydd Sul.
Mae Heddlu Trafnidiaeth wedi cadarnhau bod y person wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi iddo gael anafiadau sy'n bygwth ei fywyd.
Ychwanegodd plismyn "nad oedd y digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus".
Ar un adeg roedd degau o deithwyr i'w gweld y tu allan i'r orsaf, tra bod cwmni Trafnidiaeth Cymru yn nodi bod oedi i nifer o deithiau.
Mae rheilffyrdd bellach wedi ailagor ond mae yna rybudd i deithwyr wirio amserlenni cyn teithio.