Rhybudd o law trwm dros nos yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Conwy, dinbych, y Fflint, Gwynedd a Môn

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai ardaloedd gael llifogydd ac y gallai teithwyr wynebu trafferthion wrth i law trwm daro rhai rhannau o ogledd Cymru dros nos.

Mae rhybudd melyn mewn grym o hanner nos tan 11:00 fore Llun.

Gall hyd at 80mm (8cm) o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd o fewn chwech awr, medd y Swyddfa Dywydd.

Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd a Môn.

Pynciau cysylltiedig