Canslo apwyntiadau yn sgil angladd y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Arch y FrenhinesFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd rhai apwyntiadau ysbyty yn cael eu canslo ddydd Llun yn dilyn cadarnhad y bydd diwrnod angladd y Frenhines Elizabeth II yn ŵyl banc.

Dywed Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan na fydd y rhan fwyaf o apwyntiadau a drefnwyd o flaen llaw yn digwydd oni bai bod y mater yn un brys.

Bydd y mwyafrif o feddygfeydd a fferyllfeydd ar gau hefyd.

Dywed Llywodraeth Cymru bod disgwyl i awdurdodau iechyd weithredu fel y maent yn arfer ei wneud ar wyliau banc arferol.

Bu farw'r Frenhines ddydd Iau yn Balmoral ac yn dilyn ei marwolaeth fe wnaeth y Brenin Charles III roi sêl bendith i ddiwrnod angladd ei fam fod yn ŵyl banc.

Mae datganiad gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn nodi y byddant yn cysylltu â chleifion i newid y trefniadau.

"Bydd ein gwasanaethau gofal brys yn parhau ddydd Llun. Ry'n ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra," medd y datganiad.

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau y bydd apwyntiadau brechiadau atgyfnerthol Covid yr hydref yn cael eu cynnal yn ardaloedd cynghorau Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont.

Bydd chwe chanolfan frechu y bwrdd ar agor ddydd Llun ond os oes rhywun yn dymuno newid ei apwyntiad, yn sgil yr angladd, mae modd aildrefnu.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog, Camilla, ddod i Gymru ddydd Gwener fel rhan o'u taith i'r gwledydd datganoledig

Dywedodd Bwrdd Iechyd Powys y byddant yn cysylltu â'u cleifion petai newid yn y trefniadau ond y bydd brechiadau Covid yn dal i ddigwydd.

Ychwanegodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y dylai cleifion gymryd bod eu hapwyntiad yn mynd yn ei flaen oni bai eu bod yn clywed yn wahanol.

Mae disgwyl i bob meddygfa fod ar gau yn ogystal â deintyddfeydd.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi ysgrifennu at bob sefydliad GIG er mwyn sicrhau bod gwasanaethau brys yn parhau ynghyd â rhai gwasanaethau gofal eraill - yn fwyaf arbennig triniaethau clinigol brys a thriniaethau canser.

"Ry'n hefyd yn gofyn i sefydliadau sicrhau bod staff, cleifion a'r cyhoedd yn ymwybodol o'r newidiadau," medd llefarydd.

Aildrefnu amlosgiadau

Nid gwasanaethau iechyd yn unig fydd yn newid eu trefniadau ddydd Llun - mae amlosgiadau yn siroedd Pen-y-bont a Phenfro wedi'u haildrefnu.

Ni fydd cynghorau Powys, Abertawe a Phenfro yn casglu unrhyw sbwriel na gwastraff ailgylchu.

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau hefyd y bydd ysgolion, adeiladau cyngor, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau cymunedol a'r farchnad ar gau.

Mae Amgueddfa Cymru yn dweud y bydd pob un o'u hamgueddfeydd a'u canolfannau arddangos ar gau.