Y Frenhines yn gorffwys yn gyhoeddus yn Neuadd Westminster
- Cyhoeddwyd
Mae arch y Frenhines Elizabeth II bellach wedi cael ei chludo o Balas Buckingham i Neuadd Westminster.
Bydd corff y Frenhines nawr yn gorffwys yn gyhoeddus yno am bedwar diwrnod, tan yr angladd ddydd Llun.
Roedd Llywydd y Senedd, Elin Jones, ymhlith y rheiny oedd yn bresennol mewn gwasanaeth ym Mhalas Westminster, wrth i dorfeydd hefyd ymgasglu ar y ffordd sydd yn arwain yno.
"Mae'n ddiwrnod hanesyddol, arwyddocaol, ac mae'n bwysig i fi fel Llywydd y Senedd bod cynrychiolwyr y Senedd yma ar y dydd yma," meddai.
'Roedd hi'n fendigedig'
Ar ôl teithio o'r Alban i Lundain nos Fawrth, fe wnaeth yr arch adael Palas Buckingham am Neuadd Westminster am 14:22 brynhawn Mercher.
Cafodd yr arch wedyn ei chario ar hyd y llwybr drwy strydoedd y ddinas gyda'r Brenin a rhai aelodau o'r Teulu Brenhinol yn cerdded tu ôl iddi.
Bu gynau'n tanio yn Hyde Park pob munud trwy gydol y daith cyn i'r arch gyrraedd Neuadd Westminster am 15:00.
Yn ystod cyfnod o orffwys cyhoeddus y Frenhines yn Neuadd Westminster bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu ymweld 24 awr y dydd.
Cafodd aelodau cyntaf o'r cyhoedd i roi eu teyrnged personol fynediad i'r Neuadd tua 17:00, gydag amcangyfrif fod ciw o 2.8 milltir yn aros y tu allan.
Un o'r rheiny oedd yn ciwio i allu mynd i weld yr arch ddydd Mercher oedd Gareth Williams, sydd o Ynys Môn yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Wiltshire.
"Mae'r Frenhines yn ddynes sydd 'di bod yna drwy fy mywyd i gyd, dwi'n cofio hi ers o'n i'n fychan," meddai. "Dwi'm yn gwybod dim byd gwahanol."
Dywedodd ei fod yn "siomedig" ond ddim wedi synnu pan glywodd am ei marwolaeth, a'i fod wedi ei gweld hi ddwywaith yn y gorffennol ar ymweliadau â Chymru.
"Roedd hi'n fendigedig," meddai. "Dynes o brofiad, o stature."
Un a deithiodd hyd yn oed yn bellach i "ddathlu ei bywyd" oedd Graham Hughes, sydd o Gymru'n wreiddiol ond nawr yn byw yn Calgary, Canada.
"Dwi'n gyn-aelod o'r lluoedd arfog, felly mae gen i'r cysylltiad yna hefyd," meddai.
"Dwi wastad wedi ei hedmygu hi, a'r ymroddiad mae hi wedi ei ddangos, a pheidio gadael i unrhyw beth amharu ar y ddyletswydd honno."
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl profiad "emosiynol" wrth weld yr arch am y tro cyntaf.
"Hyd yma mae pob dim wedi bod ar y teledu, ond pan fyddwn ni'n gweld yr arch yna mi fydd o'n taro adref ei fod o'n wir," meddai.
"Mae ei theyrnasiad hi drosodd, mae'r cyfnod yna drosodd, ac mae 'na ddechrau newydd.
"Efallai bydd rhai eisiau gweld newid, ond dim ots beth, dwi dal am gefnogi'r Teulu Brenhinol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022