Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 23-23 Y Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Jack WalshFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jack Walsh drosi ar ddiwedd y gêm gan sicrhau gêm gyfartal

Roedd hi'n gêm gynhyrfus iawn ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn a hynny wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn Y Gweilch.

Ar ddechrau'r gêm cafwyd munud o dawelwch i gofio am Elizabeth II a churo dwylo brwdfrydig am funud i gofio Eddie Butler, Phil Bennett a Ken Jones.

Y Gweilch oedd y tîm cryfaf yn yr hanner cyntaf a hwy aeth ar y blaen gyntaf wedi i Keelan Giles greu bwlch i Gareth Anscombe groesi am bum pwynt gan drosi hefyd i roi saith pwynt iddynt mewn saith munud.

Gyda chic gosb ymhen tri munud roedd Y Gweilch ddeg pwynt ar y blaen.

Er i'r Scarlets gael cic gosb ac i Sam Costelow roi tri phwynt iddynt, roedd cic gosb Anscombe wedi ychwanegu tri i'r Gweilch ymhen dim.

Roedd cerdyn melyn i Sam Costelow ar ôl 24 munud a hynny yn cryfhau gafael y Gweilch ar y gêm.

Ond wedi i'r chwiban fynd ar gyfer hanner amser, bu cryn anniddigrwydd wrth i'r TMO eu galw yn ôl am gam-chwarae gan Justin Tipuric ar McNicholl. Rhoddwyd cic gosb annisgwyl i'r Scarlets a hynny yn lleihau mantais y Gweilch.

Yn yr ail hanner cafwyd cic gosb yr un yn gynnar - yna cafodd Keelan Giles asgellwr y Gweilch gerdyn melyn. Gydag un yn llai yn amddiffyn yr ymwelwyr dyma Johnny Williams yn sgorio cais unigol gwych a Costelow yn trosi ac unioni'r sgôr.

Roedd y Scarlets yn dîm gwahanol erbyn hyn ac fe sgoriodd Costelow dan y pyst gan ychwanegu'r trosiad a rhoi ei dîm saith pwynt ar y blaen.

Roedd hi'n ymdrech fawr i'r Gweilch eu cadw rhag sgorio eto ond fe ddaeth cyfle iddynt hwythau a hynny ym munud olaf y gêm.

Wedi gwaith caled gan y blaenwyr fe wnaeth Will Griffiths sgorio gan roi'r Gweilch o fewn dau bwynt i'r Scarlets a chyda'r dyrfa yn ceisio gwneud eu gorau i'w rwystro fe wnaeth Jack Walsh drosi gyda chic olaf y gêm.

Roedd hi'n gêm gyfartal yn y diwedd ond yn gêm ddarbi llawn cynnwrf er nad yn bodloni'r tîm cartref.