Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 20-13 Munster
- Cyhoeddwyd
Roedd yna fuddugoliaeth i Gaerdydd brynhawn Sadwrn yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Ar ddechrau'r gêm cafwyd tawelwch i gofio am Elisabeth II a munud o guro dwylo i gofio am Eddie Butler a fu farw yn gyharach yr wythnos hon.
Caerdydd gydiodd yn y gêm o'r cychwyn cyntaf a thrwy chwarae cryf Josh Turnbull a Taulupe Faletau crëwyd lle i Max Llewellyn y canolwr i groesi'r gwyngalch.
Ni lwyddodd Jarrod Evans gyda'r trosiad ond fe darodd Munster yn ôl - gyda dwy gic gosb lwyddiannus o droed Healy yn eu gosod ar y blaen.
Yna cyn hanner amser roedd Caerdydd yn ôl ar y blaen, Max Llewellyn unwaith eto yn creu bwlch ac yn pasio'r bêl i Dacey a groesodd am bum pwynt arall cyn i Evans ychwanegu dau arall.
Wedi awr o chwarae roedd gan Munster dafliad o fewn pum medr o linell gais Caerdydd ac yn y diwedd aeth O'Sullivan dros y llinell a chafwyd trosiad llwyddiannus - roedd Munster ar y blaen o 13 i 12.
Ond yna aeth Caerdydd yn ôl ar y blaen gyda chic gosb arall.
Yna er mawr ryddhad i'r tîm cartref croesodd Summerhill y gwyngalch, ac er i Evans fethu trosi roedd Caerdydd yn fuddugol - y fuddugoliaeth gyntaf yn erbyn tîm o Iwerddon mewn pedair mlynedd.