Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caeredin 44-6 Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Roedd chwarae digon gwantan Caeredin yn nechrau'r gêm yn rhoi'r argraff fod y Dreigiau yn chwarae yn dda a daeth dwy sgôr gynnar i'r tîm o Gasnewydd - dwy gic gosb o droed J J Hanrhan yn rhoi mantais o chwech iddynt.
Ond wedi ryw ugain munud roedd y fantol yn troi wrth i Gaeredin gael gafael ar y gêm.
Ar yr hanner awr roedd blaenwyr Caeredin yn gwthio yn nes ac yn nes at y llinell gais ac yn y diwedd fe groesodd Ben Vellacott y gwyngalch a'r TMO yn cadarnhau hynny.
Daeth trosiad wedyn o droed Bennett ac roedd y chwarae wedi newid a Caeredin yn hyderus iawn.
Ymhen pum munud roedd Charlie Savala wedi rhyddhau Glen Young ac fe wnaeth hynny ychwanegu bum pwynt at gyfanswm yr Albanwyr.
Gyda diwedd yr hanner cyntaf yn nesu fe gafodd Lloyd Fairbrother gerdyn melyn am dacl hwyr iawn ac gyda'r deugain munud wedi dod i ben ychwanegodd Bennett dri phwynt arall ac roedd hi'n 15-6 ar hanner amser.
Tri munud o'r ail hanner oedd wedi pasio cyn i flaenwyr Caeredin greu lle i Darcy Graham ychwanegu pum pwynt, a daeth ail gais i'r asgellwr rhyngwladol mewn ychydig funudau, a chyda trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 27-6.
Doedd y Dreigiau ddim yn y gêm o gwbl erbyn hyn ac fe ychwanegodd geisiau Damien Hoyland, Blair Kinghorn a Chris Dean a throsiad i'r olaf at y sgôr.
Fe wnaeth Y Dreigiau bwyso ar Gaeredin yn y munud olaf ond heb lwyddiant a daeth y gêm i ben gyda'r tîm cartref yn chwalu y Dreigiau o 44 i 6.