Paul Davies: Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig â chanser y brostad
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi cael diagnosis o ganser y brostad.
Dywedodd Paul Davies, sy'n cynrychioli Preseli Sir Benfro, y bydd yn dechrau triniaeth yn fuan.
"Mae'r gwasanaeth rydw i wedi'i dderbyn hyd yn hyn wedi bod heb ei ail ac rwy'n ddiolchgar iawn i staff y GIG sy'n gofalu amdanaf," meddai ar Twitter.
Dymunodd gwleidyddion Cymreig o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol adferiad buan iddo.
Trydarodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Gwellhad buan". Dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Cofion gorau atat. A chymer dy amser i wella'n llawn."
Dywedodd Mr Davies ei fod wedi cyfarfod â'i ymgynghorydd yr wythnos hon i drafod opsiynau triniaeth "yn dilyn diagnosis diweddar o ganser y brostad".
"Byddaf yn dechrau triniaeth cyn bo hir, a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf," ysgrifennodd.
"Wrth i mi ddechrau'r broses driniaeth honno, rwyf am atgoffa pawb ei bod mor bwysig gwrando ar eich corff a chysylltu â'ch meddyg teulu os ydych chi'n teimlo nad yw rhywbeth yn iawn."
Ychwanegodd fod ei swyddfa "yn parhau ar agor a byddaf yn parhau i gyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu".
Ymddiswyddo
Ganed Paul Davies ym 1969, a magwyd ef ym mhentref Pontsian yng Ngheredigion.
Ymunodd Mr Davies â gwleidyddiaeth Bae Caerdydd yn 2007 pan gafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd. Daeth yn arweinydd y Ceidwadwyr yno yn 2018.
Ymddiswyddodd Mr Davies y llynedd yn dilyn ffrae dros ddiodydd yn y Senedd yn ystod gwaharddiad ar alcohol yng Nghymru.
Yn dilyn hynny, dyfarnwyd nad oedd wedi torri'r cod ymddygiad.
Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Cymru, Kevin Brennan, ei fod yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth i drin canser y brostad.
Dywedodd Mr Brennan, sy'n cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd, mewn cyfres o drydariadau nad oedd ganddo "unrhyw symptomau cyn diagnosis".
Ysgrifennodd: "Yr wythnos ddiwethaf cefais lawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ar gyfer canser y brostad - rwy'n gwella'n dda iawn ac ni ddylai fod angen unrhyw driniaeth bellach arnaf."
Mae Mr Brennan hefyd yn galw ar ddynion dros 50 oed i gael prawf PSA ar gyfer y clefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018