Buddugoliaeth swmpus i Forgannwg dros Sir Derby

  • Cyhoeddwyd
David LloydFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Heb os David Lloyd oedd y seren i Forgannwg, gyda'r ail sgôr uchaf yn hanes y sir

Bydd gobeithion Morgannwg o sicrhau dyrchafiad o Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn cael ei benderfynu yng ngêm ola'r tymor wedi iddyn nhw roi cweir i Sir Derby yng Nghaerdydd.

Cafodd Morgannwg ddechrau gwych i'r gêm, gan gyrraedd cyfanswm o 540-5 cyn dod â'u batiad cyntaf i ben.

Roedd hynny diolch i sgôr anhygoel o 313 heb fod allan gan y capten David Lloyd - yr ail sgôr uchaf yn hanes y sir.

Llwyddodd Morgannwg i gyfyngu Sir Derby i 253 yn eu batiad cyntaf nhw, wrth i Ajaz Patel gymryd pum wiced, gan orfodi'r ymwelwyr i fatio eto yn syth.

Dechreuodd y diwrnod olaf ddydd Gwener gyda Sir Derby ar 123-3 yn eu hail fatiad - 174 rhediad tu ôl i Forgannwg o hyd.

Fe lwyddodd y Cymry i'w cyfyngu i gyfanswm o 273, gan olygu fod Morgannwg yn ennill o fatiad a 24 rhediad.

Fe wnaeth y canlyniad godi Morgannwg i'r ail safle yn yr Ail Adran am gyfnod, ar 200 pwynt.

Ond wedi i Middlesex sicrhau eu buddugoliaeth nhw yn erbyn Sir Gaerlŷr yn ddiweddarach brynhawn Gwener, a'u codi i 209 pwynt, fe wnaeth hynny wthio Morgannwg i'r trydydd safle.

Gyda dim ond dau dîm yn cael dyrchafiad, a Sir Nottingham yn eithaf cyfforddus ar y brig gyda 218 pwynt, bydd pwy sy'n codi i'r Adran Gyntaf yn cael ei benderfynu yng ngêm ola'r tymor yr wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig