Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Glasgow 52-24 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Glasgow v CaerdyddFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Matt Fagerson yn sgorio trydydd cais Glasgow

Cafodd Caerdydd gweir gan Glasgow nos Wener wrth i'r ddau dîm rannu dros 75 o bwyntiau yn Scotstoun.

Daeth y cais cynta'r gêm i'r ymwelwyr ar ôl 15 munud wrth i'r asgellwr Josh Adams groesi yn y gornel, ond yn fuan wedi hynny fe welodd Thomas Young gerdyn melyn i'r Cymry.

Fe wnaeth Glasgow gymryd mantais lawn o gyfnod Young yn y gell gosb, gan sgorio tri chais trwy Fraser Brown, Cole Forbes a Matt Fagerson yn y 10 munud nesaf.

Tro'r Albanwyr i gael cerdyn melyn oedd hi wedi hynny, gyda Tom Jordan yn cael ei yrru o'r maes, ond ychwanegodd George Horne gais arall i'r tîm cartref yn y cyfnod yma i'w gwneud yn 28-10 ar yr egwyl.

Fel yn yr hanner cyntaf, Caerdydd sgoriodd y cais cyntaf yn yr ail hanner hefyd, y tro hwn trwy Kristian Dacey, ond unwaith eto fe lwyddodd Glasgow i daro 'nôl yn gryf.

Croesodd Zander Fagerson am gais, cyn i Brown sgorio ei ail ar ôl i Uilisi Halaholo weld cerdyn melyn arall i'r ymwelwyr.

Ychwanegodd Tom Gordon seithfed cais i'r Albanwyr, cyn i Liam Belcher ymateb gyda thrydydd cais Caerdydd. Ond Glasgow gafodd y gair olaf gydag wythfed cais, y tro hwn i Stafford McDowall.

Pynciau cysylltiedig