Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 39-55 Ulster

  • Cyhoeddwyd
Johnny Williams yn taclo Michael LowryFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Williams yn taclo Michael Lowry

Mewnwr Iwerddon, John Cooney, oedd seren y sioe wrth iddo sgorio 30 pwynt i Ulster mewn gêm llawn ceisiau ar Barc y Scarlets.

Mewn gêm llawn cyffro a welodd 12 cais, sgoriodd Cooney ddau ohonyn nhw yn ogystal a saith trosiad a dwy gic gosb.

Daeth ceisiau pellach i Ulster gan Alan O'Connor, Marty Moore, Marcus Rae a Billy Burns.

Ymatebodd y Scarlets gyda dwy gais gan Dafydd Hughes gyda Jonathan Davies, Conbeer a Fifita hefyd ar y sgorfwrdd.

Ond er holl ymdrech y Scarlets i frwydro'n ôl, mae'n debyg y byddant yn edrych yn ôl ar y cardiau melyn y dangoswyd i Sam Costelow a Vaea Fifita fel trobwyntiau nad oedd modd eu goresgyn.

Pynciau cysylltiedig