Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 27-28 Lions

  • Cyhoeddwyd
Jack WalshFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Methiant Jack Walsh i sgorio cic gosb wedi 78 munud oedd moment dyngedfenol y gêm ar Stadiwm Swansea.com

Colli o drwch blewyn oedd hanes y Gweilch nos Sadwrn wedi methu cic gosb yn munudau ola'r gêm.

Mae'n golygu bod eu rhediad wael yn erbyn timau o Dde Affrica yn parhau, gyda diffyg cywirder cic Jack Walsh wedi 78 munud yn costio'n ddrud.

Sgoriwyd ceisiau gan Sanele Nohamba, Francke Horn a Edwill van der Merwe, gyda 13 pwynt arall gan Gianni Lombard.

Croesodd Keelan Giles ddwy gais i'r Gweilch, gyda Rhys Webb a Dewi Lake yn ychwanegu at sgôr y tîm cartref.

Yn dilyn y gem dywedodd hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth: "Dw i'n gwybod sut wnaethon ni ei golli, ond o ran pam, dyna'r cwestiynau am y tro.

"Mae angen i ni fwrw ymlaen a dysgu'r gwersi nad ydyn ni wedi llwyddo i wneud yn y pythefnos cyntaf. Roedd gennym ni lawer o reolaeth.

"Dw i ddim yn meddwl i ni ddechrau cystal â'r wythnos ddiwethaf, ond fe wnaethon ni ddod yn ôl i reoli cyn ei golli unwaith eto.

"Dyna'r peth mawr sy'n rhaid i ni ei sortio, mae'r timau'n rhy dda yn y gynghrair hon.

"Pan mae momentwm yn newid ac yn symud yn gyflym iawn, mae'n anodd ei gael yn ôl."

Pynciau cysylltiedig