Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Benetton 34-23 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Scarlets a BenettomFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Doedd hi ddim yn berfformiad cyflawn gan y Scarlets fel yr oedd eu hyfforddwr, Dwayne Peel, wedi gobeithio.

Er iddyn nhw gael mwyafrif y meddiant yn ystod y gêm, roedd 'na broblemau disgyblaeth a Benetton yn sicrhau'r pwyntiau ar y sgorfwrdd.

Ond, fe newidiodd y gêm erbyn yr ugain munud olaf gyda'r Scarlets yn taro'n ôl wrth i Benetton ddechrau blino.

Serch hynny, roedd 'na rywfaint o dân ar ôl ym moliau'r tîm cartref a chais yn y munudau olaf yn sicrhau'r fuddugoliaeth iddynt.

Benetton yn arwain drwy'r gêm

Gydag un gic gosb ym munudau cyntaf y gêm, daeth y cais cyntaf i'r Eidalwyr gan y maswr, Albornoz, a wnaeth sicrhau'r trosiad hefyd.

Daeth chwe phwynt i'r Scarlets oherwydd dwy gic gosb ac un gan y gwrthwynebwyr yn golygu bod y sgôr ar yr hanner yn 13-6.

Ond dim ond ymestyn wnaeth y bwlch ar y sgorfwrdd gyda rhagor o bwyntiau i Benetton.

Ciciau cosb i'r naill dîm ond cais ychwanegol i Benetton gan Padovanni yn eu rhoi ar y blaen o 26-9 ar ddechrau'r ugain munud olaf.

Ond wrth i'r tîm cartref ddechrau blino yn sgil y gwaith amddiffyn, roedd cyfle i'r Scarlets daro'n ôl gyda chais gan Sione Kalamafoni a throsiad gan Rhys Patchell.

Parhau i chwilio am gyfleoedd wnaeth y Scarlets a llifo wnaeth y pwyntiau gyda chais arall a hwnnw gan Johnny Williams. Rhys Patchell yn ychwanegu dau bwynt arall gyda'r trosiad.

Fe ddechreuodd y gobaith lithro o ddwylo'r Scarlets gyda chic gosb arall i Benetton yn cynyddu'r pwysau. Y sgôr yn 29-23 gyda phum munud i fynd.

Roedd y tîm cartref yn benderfynol o sicrhau'r fuddugoliaeth a Menonchello wnaeth hynny gyda chais i gloi'r gêm.

Pynciau cysylltiedig