Rhybudd am wynt a glaw ar draws Cymru ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd gwyntFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhybudd mewn grym ar gyfer naw sir yng Nghymru

Roedd rhybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 70mya achosi difrod ar draws Cymru fore Mercher.

Roedd y Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio y gallai glaw trwm achosi trafferthion yn siroedd Môn, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd, Penfro a Phowys.

Yn wreiddiol roedd y rhybudd hyd at hanner nos, nos Fercher, ond cafodd hynny ei symud ymlaen at 11:00 y bore.

Bu pont traffordd yr M48 ar draws Afon Hafen ynghau yn sgil y tywydd ac roedd cyfyngiadau ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn.

Pynciau cysylltiedig