Ymgyrch i atal cais i droi tafarn ger Bangor yn llety gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y Vaynol ArmsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog y Vaynol Arms wedi gwneud cais i droi'r dafarn yn llety gwyliau

Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio achub eu tafarn leol ym Mhentir ger Bangor yn ceisio sicrhau y bydd Cyngor Gwynedd yn gwrthod cais gan y perchennog i'w throi yn llety gwyliau.

Mae pobl leol wedi creu cymdeithas i geisio achub y Vaynol Arms, sydd wedi bod ar gau ers Nadolig 2021.

Eu gobaith ydy ei rhedeg fel menter gymunedol er mwyn gwarchod yr adeilad hanesyddol a chadw adnodd ar gyfer y pentref.

Dywed y perchennog ei fod wedi cynnig rhentu'r dafarn i'r grŵp, ond ei fod wedi penderfynu gwneud cais i newid defnydd yr adeilad gan nad oedd wedi clywed yn ôl ganddyn nhw ers chwe mis.

'Angen lle yn ein pentref ein hunain'

Flwyddyn ar ôl symud i fyw i Bentir, mae Cefin Roberts yn cefnogi'r ymgyrch i achub y Vaynol Arms am ei fod yn credu ei bod yn ganolfan werthfawr ar gyfer y pentref.

"Mae'r pentref yn gyfoethog o ran brwdfrydedd a chymuned, ond yn dlawd o ran adnoddau," meddai.

"Da' ni'n brin o adnoddau i gyfarfod yn gyhoeddus. Mae gan bob pentre' cyfagos neuadd.

"Mae ambell gynghorydd wedi awgrymu ein bod ni'n mynd i Rhiwlas neu Glasinfryn os ydan ni eisiau cyfarfod, ond 'da ni angen lle yn ein pentre' ein hunain."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Does gan Pentir ddim canolfan i gyfarfod yn gyhoeddus, meddai Cefin Roberts

Dywed Mr Roberts fod y dafarn, oedd yn arfer bod yn eiddo i gwmni Robinsons Brewery, wedi mynd ar werth yn ystod cyfnod Covid, a'i bod wedi ei phrynu gan ddyn busnes lleol.

Oherwydd y cyfnod clo, roedd hi'n anodd i bobl gyfarfod er mwyn trafod beth allen nhw ei wneud, meddai.

Ond maen nhw bellach wedi ffurfio cymdeithas gydweithredol, gyda'r bwriad o'i rhedeg.

Eu gobaith ydy rhentu'r Vaynol Arms ar brydles a'i rhedeg er budd y gymuned.

Gwrthod cyfrif busnes i'r gymdeithas

Dywed Harry Hambleton, sydd wedi bod yn gyfrifol am ochr ariannol y fenter, eu bod wedi creu cynllun busnes a'i gyflwyno i'r perchnogion, oedd yn cefnogi'r syniad.

Y bwriad oedd cynnig cyfran yn y busnes i unrhyw un oedd â diddordeb yn helpu'r prosiect.

I wneud hynny roedden nhw angen cyfrif busnes, ond fe gawson nhw drafferth wrth geisio gwneud hynny.

Dywed fod y gymdeithas mewn cyfyngder ar ôl i fanc Lloyds wrthod rhoi cyfrif iddyn nhw.

"Pe bai defnydd y Vaynol yn cael ei newid, fe fyddai'r gymuned yn colli rhywbeth sydd wedi bod ganddyn nhw ers 150 o flynyddoedd," meddai Mr Hambleton.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y perchennog Duncan Gilroy fod misoedd wedi mynd heibio heb iddo glywed gan y gymdeithas

Dywed perchennog y dafarn Duncan Gilroy ei fod wedi bod yn barod i drafod gydag unrhyw un oedd â diddordeb yn ei rhedeg ers iddo ei phrynu yn Ebrill 2021.

Mae'n dweud fod y busnes wedi cael ei osod i ddau dafarnwr am gyfnod, gyda sêl bendith y gymuned, ond eu bod nhw wedi gadael a bod y dafarn wedi bod ynghau ers diwedd 2021.

"Mi wnes i droi y llawr ucha' yn fflat, a mynd yn ôl at y gymuned i ofyn oedden nhw eisiau rhedeg y dafarn," meddai.

Dywedodd eu bod nhw'n awyddus i wneud hynny, ond nad oedd o wedi clywed dim byd wedyn.

'Barod i drafod'

"Mi wnes i gysylltu efo'r gymdeithas i ofyn be oedd yn bod," meddai.

"Ges i wybod eu bod nhw wedi cael trafferth agor cyfrif banc, ond gan 'mod i heb glywed dim erbyn mis Medi mi adawais iddyn nhw wybod y byddwn i'n gwneud cais i newid defnydd yr adeilad."

Ychwanegodd: "Pe baen nhw'n dod ata' i efo cynllun, mi fyddwn i'n barod i drafod.

"Dwi'n barod i gael deialog efo'r bobl leol. Da' ni wedi rhoi amser a gofod iddyn nhw lunio cynllun i redeg y lle.

"Os nad ydyn nhw'n dod i gysylltiad, mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth efo'r adeilad. Dwi wedi gwneud cais i'w droi'n llety gwyliau."

'Penderfynol o beidio ildio'

Mae'r ymgyrchwyr wedi cael gwybod y bydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r cais i Gyngor Gwynedd erbyn 26 Hydref.

Maen nhw eisiau i'w cefnogwyr gysylltu â'r awdurdod i ddangos eu teimladau.

"'Di Pentir ddim yn le sydd wedi colli stêm," meddai Cefin Roberts.

"'Da ni'n benderfynol o beidio ildio, a gwrthwynebu'r cais i droi y dafarn yn llety gwyliau, achos mae'r Airbnbs 'ma yn lladd cymunedau."

Pynciau cysylltiedig