Wrecsam: Llwyfan i'r Gymraeg ar ddwy ochr yr Iwerydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r sylw byd-eang y mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi ei dderbyn yn sgil prynu'r clwb gan ddau o sêr Hollywood wedi bod yn "llwyfan anhygoel i'r Gymraeg".
Dyna farn un o sefydlwyr Canolfan Gymraeg y dref yn dilyn llwyddiant y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham.
Mae'r rhaglen, sy'n dilyn hynt a helynt y clwb ers cael ei brynu gan Ryan Reynolds ac Rob McElhenney, wedi rhoi platfform rhyngwladol i'r dref a rhai o hoelion wyth y clwb.
Ond gydag elfennau o'r gyfres hefyd yn taflu goleuni ar yr iaith Gymraeg a hanes y wlad, mae Cymry sy'n byw ar ddwy ochr yr Iwerydd wedi dweud wrth Cymru Fyw bod sylw o'r fath o gymorth i statws yr iaith.
'Y Gymraeg yn rhywbeth naturiol'
"Dwi'n meddwl fod o 'di gwneud daioni enfawr i Wrecsam ac i Gymru rownd y byd," dywedodd Marc Jones.
Disgrifiodd y gyfres - sy'n cael ei dangos ar sianel FX yn yr Unol Daliaethau ac ar Disney+ yn y DU - fel "llwyfan anhygoel" i'r iaith.
Wedi helpu i sefydlu canolfan Saith Seren, sef un o gonglfeini'r iaith yn y dref, roedd yn ddiolchgar fod Welcome to Wrexham wedi trin a thrafod y Gymraeg mewn modd naturiol.
Ond pwysleisiodd Mr Jones, sydd hefyd yn gynghorydd sir yn Wrecsam, fod ymdrechion i gynnal a chryfhau'r iaith wedi bod yn mynd ymlaen yn yr ardal ers peth amser.
"Hefo Rob yn gwneud ei orau i siarad Cymraeg, dwi'n meddwl falle'n fwy na dim mae wedi pwysleisio faint yn rhan o Wrecsam ydy'r Gymraeg a bod o 'di cael ei weld fel rhywbeth naturiol a ddim yn rhywbeth mae Rob a Ryan jyst wedi ei greu.
"Roedd Yma o Hyd yn cael ei chwarae ar y Cae Ras am flynyddoedd cyn bo'r tîm cenedlaethol wedi ei fabwysiadu, mae gynnon ni draddodiad ac mae Saith Seren yn rhan o hwnnw a fod y Gymraeg yn rhan annatod o gymuned Wrecsam a'r cylch.
"Dyna dwi wedi ei fwynhau gymaint amdano, bod nhw wedi derbyn fod y Gymraeg yn rhan ohono ac wedi dangos hynny'n amlwg yn y rhaglenni yma.
"Dio'm yn gimmick ne' rhyw fath o jôc, mae o'n rhan o fywyd pob dydd y clwb a'r gymuned a dyna'n union 'da ni isho drio'i bwysleisio, fod o ddim yn unig yn iaith y capel neu iaith yr ysgol, fod o'n rhan o fywyd ffans pêl-droed."
Yr iaith ar y terasau
Gyda'r gyfres gyntaf wedi dod i ben yr wythnos hon, mae ail gyfres eisoes wedi ei chomisiynu.
Mae cyfres arall, Wrecsam: Clwb Ni, hefyd yn cael ei darlledu ar S4C ar hyn o bryd.
Ond mae'r clwb eisoes yn dwyn ffrwyth y sylw ychwanegol gyda thorfeydd cartref wedi cynyddu'n sylweddol.
Yn rhannol o ganlyniad i gefnogwyr yn teithio o rannau eraill o Gymru, mae'r iaith Gymraeg i'w clywed fwy nag erioed o gwmpas y stadiwm ar ddiwrnod gêm.
"Mae'n syfrdanol faint o Gymraeg mae pobl yn glywed wrth gerdded i'r Cae Ras," dywedodd Mr Jones.
"Pan dwi'n clywed rhywun yn siarad Cymraeg dwi'n dueddol o droi rownd a falle disgwyl adnabod nhw, ond dwi ddim! Ac mae hynny'n grêt ac yn dangos faint o bobl ar hyd a lled y gogledd sy'n dod ond hefyd faint o Gymraeg sydd 'na yn Wrecsam.
"Dwi'n hoff iawn o atgoffa pobl fod mwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg yn Wrecsam na sydd yn Gaernarfon, jyst fod ni ddim mor weladwy. Dyna oedd y peth mwya' pwysig i mi drwy drio hybu'r Gymraeg gyda Saith Seren.
"Yn sicr 'da ni'n gweld budd ar matchdays pan doeddan ni ddim o'r blaen. Dwi'n sicr fod y dref yn elwa yn enfawr yn economaidd."
'Natur y clwb wedi newid'
Ond mae'r clwb yn parhau i chwarae ym mhumed haen pyramid Lloegr, ac fe rybuddiodd Marc Jones mai llwyddiant ar y maes oedd y flaenoriaeth.
Ychwanegodd byddai llwyddiant ar y maes yn helpu ymdrechion i ehangu'r Cae Ras, a thrwy hynny ddenu gemau rhyngwladol a mwy o ddigwyddiadau chwaraeon mawr i'r dref.
"Mae natur y clwb wedi newid yn llwyr, o fod yn un roedd y ffans biau ac yn gallu gwneud penderfyniadau - ni oedd yn rhedeg y clwb i bob pwrpas.
"Mae Ryan a Rob wedi cymryd o drosodd ac maen nhw efo cefnogaeth lwyr y ffans fyswn i'n dweud.
"Ond nhw a'u tîm nhw sy'n gwneud y penderfyniadau a dwi ddim yn credu fod nhw wedi cael pob penderfyniad yn iawn, mae 'na fethiannau wedi bod o ran cael digon o fwyd a diod, digon o grysau yn y siop a dwi ddim yn deall pam fod hynny wedi digwydd.
"Mae'r sylw mae Wrecsam wedi'i gael off the scale, does 'na'm ffordd i'w fesur o nag oes? Mae o jyst yn anhygoel a'r nifer o ffans o America sydd eisiau bod yn rhan o'r siwrnai yn anhygoel."
'Platfform rhyngwladol'
Y llynedd fe ymddangosodd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes, mewn fideo yn hyrwyddo'r gyfres gyda Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Chwaraeodd ran cyfieithydd Cymraeg yr actorion, ac aeth ymlaen i ymddangos yn y gyfres ei hun.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd: "Mae'r ddau ohonyn nhw gyda diddordeb yn y Gymraeg, 'da ni wedi gweld bob math o bethau maen nhw wedi'i wneud i helpu rhoi platfform i'r iaith yma yn America ac ar draws y byd.
"Mae'n cynnwys Ryan yn rhoi is-deitlau [Cymraeg] ar y ffilm Adam Project ar Netflix ac wrth gwrs Rob yn dysgu Cymraeg ac yn ei siarad ar y teledu.
"Oeddan ni'n gweld nhw ar y teledu yma'n siarad Cymraeg, felly'n bendant maen nhw wedi gweld pa mor bwysig yw'r iaith i bobl yng Nghymru a fod ganddyn nhw gyfle i roi platfform rhyngwladol i'r iaith."
Ychwanegodd bod y gyfres hefyd wedi codi ymwybyddiaeth o Gymru mewn rhan o'r byd lle nad ydy dealltwriaeth o'r wlad wastad mor gryf â'r gwledydd Celtaidd eraill.
"Dwi'n byw yn America ac yn magu plant yma a siarad Cymraeg iddyn nhw a dwi'm yn gwybod faint o weithiau pob wythnos mae pobl yn fan hyn yn gofyn i mi pa iaith dwi'n siarad, lle mae Cymru a beth ydy'r Gymraeg.
"Dwi wedi gweld newid ers i'r rhaglen fynd allan fod pobl yn dweud 'Cymru, fel Welcome to Wrexham?'
"Yn bendant mae'r rhaglen wedi cael effaith ond mae rhaglenni arall fel The Crown wedi cael effaith hefyd, felly mae'n bwysig fod ni'n gwthio i gael y Gymraeg ar raglenni fel hyn.
"Dwi'n gwybod mae S4C yn trio gwthio i gael y Gymraeg a cynnwys Cymraeg ar blatfform rhyngwladol ac yn dechrau gwneud co-productions gyda cwmnïau yma'n yr Unol Daliaethau, mae bob dim yn mynd i helpu.
"Yn amlwg mae 'na ail gyfres o Welcome to Wrexham felly dwi'n gobeithio fydd 'na fwy o gyfle i hysbysebu'r Gymraeg a rhoi mwy o blatfform i'r iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022