Llwyfan newydd i'r Gymraeg diolch i sylw byd-eang

  • Cyhoeddwyd
Rob a RyanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Welcome to Wrexham yn dogfennu Clwb Pêl-droed Wrecsam ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney gymryd drosodd y clwb

Mae gobaith bydd llwyddiant rhaglenni fel Welcome to Wrexham a The Crown yn ysgogi mwy o bobl i ymddiddori yn yr iaith Gymraeg.

Ers darlledu cyfres ddogfen sy'n codi cwr y llen ar hynt a helynt Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae mwy o bobl ar draws y byd wedi cael blas ar y Gymraeg.

Bellach yn cael ei darlledu ar draws yr Unol Daleithiau ac ar draws y byd, mae'r gyfres ddogfen yn adrodd hanes y clwb ers iddo gael ei brynu gan ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenny.

Ond yn ogystal â chyflwyno cynulleidfaoedd byd-eang i'r ddinas a Chymru, mae hefyd peth defnydd o'r iaith Gymraeg.

Daeth platfform arall i'r iaith yr wythnos diwethaf wrth i'r Brenin Charles III roi anerchiad hanesyddol dwyieithog yn y Senedd ym Mae Caerdydd pan ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf ers etifeddu'r Goron.

Mae pennod o'r gyfres Netflix, The Crown, yn seiliedig ar ei arwisgiad yn 1969 hefyd yn cynnwys defnydd helaeth o'r Gymraeg.

O ganlyniad cyflwyno'r Gymraeg i gynulleidfaoedd byd-eang, yn aml am y tro cyntaf, y gobaith yw bydd yn sbarduno diddordeb o'r newydd yn yr iaith.

'Codi proffil yr iaith'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Mawrth dywedodd y tiwtor Cymraeg a'r gyflwynwraig teledu, Nia Parry, bod mwy o bobol o du hwnt i Gymru'n dysgu'r iaith nag erioed o'r blaen.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Parry: 'Cyfle i ni ddweud dipyn am ein hanes ni'

"Mae unrhyw beth sy'n codi proffil yr iaith, sy'n gadael i weddill y byd wybod am fodolaeth y Gymraeg, yn mynd i fod yn beth da," meddai.

"Dwi'n byw mewn tŷ lle mae pawb gyda obsesiwn â phêl-droed felly dwi wedi gwylio'r gyfres [Welcome to Wrexham] ac mae hi'n wych.

"Mae nhw'n dweud pethau fel 'Wales is not England'. 'Dw i'n licio hefyd eu bod yn rhoi geirfa ar y sgrîn sy'n dweud English 'Pitch', American 'Field' a Welsh 'Cae'.

"Felly mae'r Gymraeg yn cael elfen weledol yn fanna, yr un fath â phan roeddem yn gweithio ar [raglen S4C] Cariad@iaith yn dysgu Cymraeg i selebs.

"Ella ar ddechrau'r wythnos eu bod yn teimlo bod nhw wedi cymryd joban o waith, ond beth mae'r iaith yn ei wneud wedyn ydi deffro rhywbeth yn eu hunaniaeth nhw.

Disgrifiad,

Y Brenin Charles III yn annerch y Senedd yn y Gymraeg

"Mae'n gyfle i ni ddweud dipyn am ein hanes ni, a gyda'r darlun ehangach yna bod pobl yn gwerthfawrogi a chydymdeimlo mwy hefo'r Gymraeg ac yn frwdfrydig.

"Mae 'na fwy o bobol yn dysgu'r Gymraeg tu allan i ffiniau Cymru rŵan nag erioed o'r blaen."

'Rîli bwysig'

Disgrifiad o’r llun,

Daw Kai Saraceno o'r Ffindir, ond mae'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor

Dywed un sydd wedi dysgu'r Gymraeg iddo gael ei gyflwyno i'r iaith gan gyfweliad gyda'r actor Iwan Rheon ar YouTube.

Bellach yn byw yng Nghymru, mae Kai Saraceno yn hanu'n wreiddiol o'r Eidal ac wedi ei fagu yn Y Ffindir cyn dechrau dysgu Cymraeg yn 18 oed.

"Ar ôl hynna oeddwn yn gwrando ar bodlediadau ar Spotify a gwylio lot o S4C..." meddai.

"Oedd lot o'r cyfresi ar y pryd - Craith, Un Bore Mercher a Bang - yn dod allan mwy na lai yr un pryd.

"Nathyn nhw actually ddod i'r Ffindir hefyd ac oedd pobl yn siarad hefo fi amdanyn nhw, felly oeddan nhw'n rîli bwysig."