David Davies: Cyfnod 'anodd iawn' i'r Llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Wiktor Szymanowicz/Future Publishing/Getty
Disgrifiad o’r llun,

David TC Davies: "Rwy'n wybodol o'r ffaith bod rhai aelodau o'r blaid Geidwadol eisiau newid y Prif Weinidog, ond dyw hynny ddim yn mynd i newid y sefyllfa economaidd"

Mae Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru wedi cydnabod bod Llywodraeth y DU yn mynd drwy gyfnod "anodd iawn" wrth i ddyfodol Liz Truss barhau i fod o dan y lach.

Mewn cyfweliad â'r BBC fe fynnodd y Prif Weinidog y byddai'n arwain y Torïaid i'r etholiad cyffredinol nesaf, er gwaethaf tro pedol sy'n golygu ei bod yn brwydro i achub ei hawdurdod.

Ymddiheurodd y Prif Weinidog am wneud camgymeriadau wedi i'r canghellor newydd Jeremy Hunt ddad-wneud bron pob un o'i chynlluniau torri trethi mewn ymgais i sefydlogi cythrwfl y farchnad.

Roedd cydnabyddiaeth hefyd nad yw ei chyfnod yn swydd "wedi bod yn berffaith", ond ychwanegodd ei bod wedi "trwsio" camgymeriadau ac y byddai wedi bod yn "anghyfrifol" i beidio newid trywydd.

'Argyfwng ariannol'

Y siarad ar Dros Frecwast ar Radio Cymru, roedd yr Is-Weinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies, yn derbyn bod rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol eisoes yn barod i weld newid yn rhif 10.

Ond er hynny, dywedodd y byddai unrhyw un yn wynebu'r un sefyllfa â'r hyn mae Liz Truss yn ei wneud ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd Liz Truss ei bod yn dal yn ymrwymedig i hybu twf economaidd y DU, ond y byddai'n cymryd mwy o amser i'w gyflawni bellach

"Rwy'n ymwybodol o'r ffaith bod rhai aelodau o'r blaid Geidwadol eisiau newid y Prif Weinidog, ond dyw hynny ddim yn mynd i newid y sefyllfa economaidd," meddai.

"Mae gyda ni sefyllfa anodd iawn, argyfwng ariannol... a phwy bynnag oedd y Prif Weinidog rydym am wynebu'r un broblem - y ffaith bod ni ddim yn gallu benthyg mwy o arian heb greu problemau gyda'r marchnadoedd.

"Ni ddim yn gallu codi treth ar fusnesau neu gartrefi heb greu problemau o ran swyddi, ond ar yr un pryd mae'n rhaid i ni gael arian i warantu pris egni.

"Mae'n anodd iawn, iawn."

'Mae'n sefyllfa yma'

Ychwanegodd, "Dwy ffordd i godi pres yw treth neu fenthyg, ond ry'n ni'n rhedeg allan o ffordd gyda'r ddau.

"Roedd [Dydd Llun] yn ddiwrnod anodd iawn iawn, ni dim yn gallu denyio hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aelod Seneddol Pen-y-Bont, Jamie Wallis, eisoes wedi galw yn gyhoeddus ar Liz Truss i ymddiswyddo fel Prif Weinidog y DU

"Dydy dyddiadur y Prif Weinidog ddim gen i... ond fel is-weinidog mae gyda fillawer iawn o bethau i wneud yn ystod y dydd a fi ddim yn gallu bod yn y siambr bob tro.

"Gallai Covid fod wedi collapsio'r economi ond wnaeth o ddim oherwydd ni wedi benthyg arian i dalu drwy'r holl argyfwng, ond nawr ry' ni wedi rhedeg mas ...

"Mae'r marchnadoedd wedi dweud, 'chi ddim yn gallu benthyg mwy o bres', ond os ydym yn codi trethi bydd hynny'n cael effaith ar bobl hefyd.

"Da ni ddim isho torri gwasanaethau cyhoeddus chwaith... felly fydd pwy bynnag sydd yno yn wynebu'r un her.

"Does neb yn y llywodraeth eisiau torri buddsoddiad neu wasanaethau cyhoeddus o gwbl, ond dyma'r sefyllfa."